Tudalen 5 o 8

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ion 2004 10:21 am
gan bids
Hogyn o Rachub a ddywedodd: mae mynyddoedd y Carneddau a Nant Ffrancon yn hyfryd 'fyd.


on i di anghofio am fanna! es i na ar drip gwaith maes daearyddieth unweth. do'n i ddim yn gallu credu bod y lle mor bert. lyshrwydd pur!

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2004 6:11 pm
gan Hogyn o Rachub
Lle hyfryd yn wir, bids!!

Bron i mi anghofio Penmon. Wrth fy modd efo'r lle, er nad ydw i wedi bod yna ers sbel.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ion 2004 5:11 pm
gan Cardi Bach
gronw pebr a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Hmm ma hanner fy nheulu yn dod o Lanymawddwy. Dwi ddim yn rhy cin ar y lle deud y gwir, ma'r siop agosa 14 milltir i ffwrdd!!

Ddrwg gen i dorri ar draws gydag amherthnasoldeb (!), ond mae hanner, neu falle chwarter, fy nheulu i yn dod o Lanymawddwy hefyd. Does bosib bo ni'n perthyn Chwadan?! O wel, pwy wyr.

I ddychwelyd at y pwnc (o ryw fath), be sy mor wych am Lanymawddwy Rhys?


A ma hanner teulu'r 'betyr 'aff' yn dod o fan'na fyd. Chi bownd fod yn perthyn.
Rhaid ychwanegu Cwm Cywarch lan i ben Aran Fawddwy at y rhestr - waw o le!
A Dyffryn Tanat lan i'r Berwyn. Reial bert.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ion 2004 8:55 pm
gan Chwadan
Pa ffermdy? Dwi'm yn nabod y bobl ond dwi di clywed am y ffermydd i gyd :) Ma nheulu i'n dod o Goedcae a Thy Canol, Llanymawddwy.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ion 2004 9:23 pm
gan Creyr y Nos
Aberystwyth, unai tu fas i'r Glen yn yr haf da peint oer yn fy llaw :D neu Traeth Tan y Bwlch adeg llanw uchel. cwl, ond ychydig yn beryglus mae'n siwr! :winc:

Rhwng Llansteffan a Llangynog yn yr Hydref.

Llanfaircaereinion (gardd gwrw'r Llew!)

Lods arall i gael fyd!

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 6:54 pm
gan gronw
Chwadan a ddywedodd:Pa ffermdy? Dwi'm yn nabod y bobl ond dwi di clywed am y ffermydd i gyd :) Ma nheulu i'n dod o Goedcae a Thy Canol, Llanymawddwy.

Ie, nabod yr enwe ydw i hefyd Chwadan... Chydig bach yn uwch i fyny mae nheulu i, Cwm Cynllwyd. Dechre off, amser maith yn ôl!, yn Tan-bwlch, wedyn Nant-hir, a Blaen-cwm.. Mae Coed-ladur (?) hefyd rwbeth i neud efo'r cawl (angen holi taid), a dwi'n nabod un o nghefndryd pell sy'n byw yn Nant-barcud.

Enwe hyfryd ar ffermydd Meirionnydd. Mae Rhys Llwyd yn iawn, mae'r lle'n anhygoel. Fydd raid i fi fynd yna'n amlach.

Tri lle gorau yng Nghymru

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 12:30 am
gan Mali
Wel, fy newis cyntaf i fuasai Bryniau Clwyd , a'r llwybr i fyny i Moel Fammau . Hyn ar ddiwrnod braf yn yr Haf , a gweld Dyffryn Clwyd yn ei ogoniant!
Yn ail Eryri a'r Wyddfa.
Ac yn drydydd unrhyw le ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. 8)

helow

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 4:08 pm
gan Bubbly Bee Bops
Well helow chi gyd yn mynd am y llefydd amlwg!!! Heblaw am y fenyw na Fela Mae sydd wedi dewis ynys Aberaeron *top notsh* girlie, gwd choice!
Os roedd rhaid dewis 3 fy nhunan, it would be
1)Meidrim, parc hyfryd, afon prydferth, 2 dafarn a pobl gyfeillgar iawn!Mae'r enw yn gweud e gyd "meidrim" fel wedodd y romans yw "my dream"!Plus fi'n byw na,what more could u ask for heh!
2)errrrm, dinbych y pysgod os chi fel fi, lysh lle i cerdded ymyl y cliffs, da tourists yn bwyta sglodion, a swn y mor yn crwsho ....mae'r seagulls hyd yn oed yn ychwanegu ato'r anturiaeth!
3)i give up

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 5:51 pm
gan Angharad
Eshi am dro ar hyd topia traeth Southerndown dydd Sul dwytha (am enw hyll i le mor waw). Da chi di sylwi pa mor anhygoel ma traethau yn edrych yn y gaeaf? Mor wyllt, mor anystywallt a dramatig. Mae o'n draeth go fawr wedi ei gysgodi gan glogwyni sy'n haenau streipiog o garrag, ond os gerddwch chi fyny ar y clogwyn dwyreinol, mi welwch chi draeth prydferthach fyth sy'n hollol anial. Dim un babi sgrechlyd na barcud neon i dynnu oddi ar ogoniant y lle (yn y gaea' o leia).

Sam byd tebyg i heli'r mor yn chwipio dy wallt ar hyd dy ddannadd di a themlo'r oerfal yn llosgi dy glustia di...waw, mi chwythodd fy mhen...


A mond tua 17 milltir tu allan i Kediff mae o. awe.

PostioPostiwyd: Llun 02 Chw 2004 3:02 pm
gan Ffinc Ffloyd
I ben Carreg Lowri yn Abergeirw - lle anhygoel o heddychlon. Dim byd fel teimlo mai chi ydi'r unig enaid byw am filltiroedd, ac yn gallu gweld eich milltir sgwar chi i gyd. (Defaid ddim yn cyfri).

At Lyn Glas yn ymyl Arthog - rhesymau tebyg i'r uchod.

Caernarfon - efo Caerdydd, fy hoff dre/dinas yng Nghymru.