Tudalen 6 o 8

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2004 12:08 pm
gan Dwlwen
1. Barafundle - dal ddim yn siwr shwd i sillafu enw'r lle - ond mae'r traeth milltiroedd o unman a'r daith dros y glogwyn i'w gyrraedd yn amazing, yn enwedig pan mae'n nosi a mae'r plant bach a'i bwcedi tywod di gadael. Rhywbeth rili chilled am y lle, oh petawn i yno nawr...

2. Cestyll Dryslwyn/Dinefwr/Carreg Cennyn - Sbin rownd y tri mewn prynhawn yn lyfli. Dryslwyn yw'n ffefryn i - rhywbeth am y ffaith fod e mor bitw. Allwch chi hyd yn oed poppo mewn i Llandeilo am ddisgled yn Fanny's wedyn!

3. Anodd dewis... ummm, fi'n groten Caerfyrddin yn y bon ac mae Llansteffan yn galw, ond, mae'n rhaid i fi fynd da llwybr arfordir sir Benfro. Tyddewi 'i hun yn lyfli/ Traeth Mawr/ Abereiddi/ Solfach... mae'r rhestr o lefydd hyfryd rhy hir.

God, ma meddwl am y llefydd 'ma'n rili evocative ond'yw... Beth yw'r ots gennyf fi am adeiladau hyll Newport Road! Hmmm

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 8:24 am
gan Lowri Fflur
Llanberis wrth ymul y llun- georgous odd dad yn mynd a ni i fana pam odda ni' n fach.

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 2:52 pm
gan LowRob
Dwi am amgrymu tri lle yn Nyffryn Tanat, ar ôl i Cardi Bach dwyn sylw at yr ardal. Does dim trefn ar y rhain:
Pennant Melangell - y lle tawelaf yn y byd - a chartref i chwedl hefyd!
Pistyll Rhaeadr - Rhaeadr uchaf Cymru a Lloegr, ac un o'n saith rhyfeddod!
Ar ben mynydd y Clogydd, neu unrhyw un o'r mynyddoedd yno, ar ddiwrnod braf - mae'r golygfa yn syfrdanol, fel dywedodd Nansi Richards:
Deuddeg milltir o wastadedd melfedaidd ac Afon Tanat fel llinyn arian trwyddo (neu rhywbeth fel'na!)
Mae Llyn Llanwddyn yn neis hefyd, ond piti bod pentref wedi ei boddi o dano fo.

Y llefydd gorau i grwydro

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:35 pm
gan Meliarth
1. O gwmpas Llyn Llanwddyn
2. Cwm Nant yr Eira
3. Prom Aberystwyth (pan fo'r lle yn glir o ymwelwyr a baw cwn)!

PostioPostiwyd: Iau 11 Tach 2004 9:58 am
gan Gwenllian
Heb os nac oni bai, mae'n rhaid i Ben Llŷn fod dop y rhestr!!

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 7:10 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
cytuno efo gwenllian yn fana, ne ma mynyddoedd yn eryri yn dda, achos rydych yn cael goleygfeydd anhygoel yn y ddau lle ac ddim yn gorfod edrych ar y gola artifishal na sy'n gorchuddio chi fel yn caerdydd ne y trefi mawr eraill cymru.

3 lle gore yng Nghymru

PostioPostiwyd: Gwe 21 Ion 2005 4:57 pm
gan morpheus
Llangrannog yn y gaea',
Cwm Hiraeth yn yr Haf,
a lan uwchben Tregaron,
mae Llyn Brianne'n braf (ish)

:)

PostioPostiwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:44 pm
gan Cwlcymro
LLyn Tegid

Mynyddoedd Eryri

Parc Bute, Caerdydd ar ddiwrnod braf o ha

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 1:06 pm
gan Aranwr
1. Mynyddoedd y Preseli - SIR BENFRO
2. Cerdded yr Arfordir - SIR BENFRO
3. Ty Ddewi - SIR BENFRO

+ Dinbych y Pysgod (Sir Benfro), Barafundle Bay (Sir Benfro), Traeth Broadhaven (Sir Benfro), Pyllau Dwr Bosheston (Sir Benfro), Abaty Llandudoch (Sir Benfro) + loads mwy fi ffili meddwl am ar y funud (ma' nhw gyd yn Sir Benfro).

It's the place to be bois!

:D

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 3:31 pm
gan Analeiddiwr
Bethel (YM)