Tudalen 7 o 8

PostioPostiwyd: Llun 28 Maw 2005 3:07 pm
gan garathsheli
Dyffryn Ogwen - Rhaid iddo fod ar dop y list! Lle prydferth ar raddfa enfawr! Es i fyny cefnen Ogleddol Tryfan ddydd Sadwrn -digon i wneud calon i guro. (hy gwaith caled dringo a gorfod gwynebu drops mawr!)

Oce, mae'r Glyderau a Chwm Idwal reit fyny na, ond mae llwybr pedol yr Wyddfa (yn cynnwys Crib Goch) a'r Carneddau mawr anghysbell yn arbennig hefyd. Eira yn gwneud lluniau hyfryd.

Mae Cadair Idris a'r Mynydd Du (Caerfyrddin) werth gair hefyd.

Mae hi gyd yn fater o flas personol - dwi yn ffan mawr o fynyddoedd Eryri, mae well gan rhai yr arfordir.

PostioPostiwyd: Sad 21 Mai 2005 10:21 am
gan Annioddefol
1) ar hyd yr A470 i lawr at caerdydd ydir lle gorau mae on taith hyfryd
2) y taith i dolrhedyn at croesor ac ynol dros yr mynyddoedd yn walk da fyd.
3) cerdded dros y mynyddoedd o amgylch blaenau

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 10:03 pm
gan Owain Gwynn
(ddim mewn unrhyw drefn benodol)

arfordir sir benfro
ardal rhostryfan
ar hyd y Preselau pan ma'r haul yn machlud
Eryri
ar hyd traeth Poppit pan ma'r llanw mas.


take your pick!

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 10:16 pm
gan Sili
Beddgelert cyn iddyn nhw gau'r hen ffordd i lawr
Mynydd Rhiw chos oni'n arfar cerddad yn fama drw'r adag pan oni'n tiny
Traeth Dinas Dinlla i edrych ar y ser (doh!) :winc:

Just peidiwch a mynd am dro i Ben Garn yn Haf - ma'r lle llawn flutterbies. Nesi grio mewn ofn tro dwytha oni yna :ofn: Argh!

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2005 8:53 pm
gan Proffesor
:D Ca'rdydd
:D Ynys Enlli (Llyn)
:D Aberystwyth -

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 3:37 pm
gan Geraint
Fues i am dro ar y Gogarth ar ddydd Sul, lle nad wyf wedi bod i ers blynyddoedd. Wedi cerdded pasio'r llethr sgio, mae yna olygfeydd anhygoel o'r top, o Eryri, Ynys Mon, Llandudno, Conwy, at Rhyl. Mae'n anodd credu eich bod mor agos i tref mawr brysur. Ar ddiwrnod braf, lle bendigedig. Ma na rhes o dai anhygoel ar ochr Orllewinol y Gogarth, tai enfawr reit ar ymyl y mor. Lle i gynsodro fyw ynddo ar ol ennill fy fortiwn.

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 3:45 pm
gan huwwaters
Geraint a ddywedodd:Fues i am dro ar y Gogarth ar ddydd Sul, lle nad wyf wedi bod i ers blynyddoedd. Wedi cerdded pasio'r llethr sgio, mae yna olygfeydd anhygoel o'r top, o Eryri, Ynys Mon, Llandudno, Conwy, at Rhyl. Mae'n anodd credu eich bod mor agos i tref mawr brysur. Ar ddiwrnod braf, lle bendigedig. Ma na rhes o dai anhygoel ar ochr Orllewinol y Gogarth, tai enfawr reit ar ymyl y mor. Lle i gynsodro fyw ynddo ar ol ennill fy fortiwn.


Ar ddiwnrod clir, gallwch hefyd weld Ynys Manaw, ac ardal y Llynnoedd, Blackpool a'i thwr. Bosib gweld rhein i gyd o Prestatyn i Landudno.

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 4:44 pm
gan Daffyd
Goro bod yn am ben Garn Fadryn ar ddwrnod braf o haf pan mai'n glir.
You can't beat it.
:)

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 5:35 pm
gan gwern
1 Dinbych y pysgod.
2 Dinorwig pam mae na eira
3 Fynny y wyddfa

PostioPostiwyd: Maw 25 Ebr 2006 6:52 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Llanddwyn - pan mai bwrw
Llanddwyn - pan mai'n braf (ond dim pobl na)
Llanddwyn - pan mai'n chwthu