Ar drên yng nghanol/De Ffrainc yn rhywle mae'n debyg, wedi cychwyn yn oriau mân y bore o Fangor. Yn rhy flinedig i feddwl am recordiau.
Ychydig o recordiau personol, nid o fewn cyfyngiadau'r gystadleuaeth:
Y pella dwi di seiclo heb lifft ayb., St-Malo, Llydaw i San Sebastian/Donostia, Gwlad y Basg (dros 1000 o filltyroedd, ond ymhell o fod mewn llinell syth).
Y pella dwi di seiclo mewn diwrnod, yn bendant 86 milltir (Bangor i Dal y Bont, Trallwm).
Y pella dwi di'i gerdded heb gludiant, o San Malo i'r Beg an Raz/Pointe du Raz, Llydaw (dros 500 milltir, eto ddim mewn llinell syth.)
Y pella ar foped mewn diwrnod, o Fangor i Henffordd (tua 135 milltir - dipyn o gamp!)
Y man uchaf dwi di bod, y Petit Vignemale ym Mhyreneau Ffrainc (3032 metr - ychydig droedfeddi'n brin o 10,000 troedfedd). Mae'n siŵr y bydd y jetsetters yn twyllo yn y gystadleuaeth yma hefyd.
Y pella dwi di ffawdheglu, o Fôr y Canoldir i Baris, dim syniad pa mor bell ydi hynny.