Well gen i pan yn crwydro a gwersylla ganfod llefydd gwyllt ('camping sauvage' chwedl y Ffrancod) i osod y babell. Mae'n fwy cyfleus, a dwi ddim yn hoff o feysydd gwersylla ffurfiol prun bynnag (pawb efo pabell grandiach na fi, mae'n siŵr). Ond hefyd dwi'n chwilio am lefydd lle nad ydi ffermwyr/wardeiniaid yn debygol o yrru tractor/landrofer dros y babell/eich hel chi o'no 5 o'r gloch y bore.
Dyma ddau o'n hoff lefydd i:-
1) Abermenai, pen deheuol Traeth Llanddwyn, Môn. Dydi'r penrhyn ei hun ddim yn rhan o'r warchodfa, ac y mae digon o breniau ar gyfer tân i'w cael ar y traeth. Yr unig broblem ydi bod y lôn nesaf (a'r cyflenwad dŵr/siop fwyd) yn eithaf pell, ond ma'i'n o fwy o antur o'r herwydd.
2) Blaen Nanmor, dyffryn cul hyfryd rhwng lôn Nantmor/Garreg Llanfrothen a Nant Gwynant. Mae pobl ers blynyddoedd wedi bod yn gwersylla'n ddirwystr ymysg y coed ar lan yr afon. Lle da i grwydro, ond ei bod chydig yn rhy boblogaidd wrth yr afon ar dywydd braf, a rhy boblogaidd efo gwybed gyda'r nos.
Oes gan eraill hoff lefydd gwersylla y carent eu datgelu?