Hoff lefydd gwersylla am ddim?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoff lefydd gwersylla am ddim?

Postiogan mred » Sad 13 Rhag 2003 9:09 pm

Well gen i pan yn crwydro a gwersylla ganfod llefydd gwyllt ('camping sauvage' chwedl y Ffrancod) i osod y babell. Mae'n fwy cyfleus, a dwi ddim yn hoff o feysydd gwersylla ffurfiol prun bynnag (pawb efo pabell grandiach na fi, mae'n siŵr). :( Ond hefyd dwi'n chwilio am lefydd lle nad ydi ffermwyr/wardeiniaid yn debygol o yrru tractor/landrofer dros y babell/eich hel chi o'no 5 o'r gloch y bore.

Dyma ddau o'n hoff lefydd i:-

1) Abermenai, pen deheuol Traeth Llanddwyn, Môn. Dydi'r penrhyn ei hun ddim yn rhan o'r warchodfa, ac y mae digon o breniau ar gyfer tân i'w cael ar y traeth. Yr unig broblem ydi bod y lôn nesaf (a'r cyflenwad dŵr/siop fwyd) yn eithaf pell, ond ma'i'n o fwy o antur o'r herwydd.

2) Blaen Nanmor, dyffryn cul hyfryd rhwng lôn Nantmor/Garreg Llanfrothen a Nant Gwynant. Mae pobl ers blynyddoedd wedi bod yn gwersylla'n ddirwystr ymysg y coed ar lan yr afon. Lle da i grwydro, ond ei bod chydig yn rhy boblogaidd wrth yr afon ar dywydd braf, a rhy boblogaidd efo gwybed gyda'r nos.

Oes gan eraill hoff lefydd gwersylla y carent eu datgelu?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Chwadan » Sad 13 Rhag 2003 9:51 pm

Ar ben mynydd uwchben Harlech. Lle perffaith i ffeindio twllwch :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Hoff lefydd gwersylla am ddim?

Postiogan brenin alltud » Mer 17 Rhag 2003 11:37 am

mred a ddywedodd:2) Blaen Nanmor, dyffryn cul hyfryd rhwng lôn Nantmor/Garreg Llanfrothen a Nant Gwynant. ...

Oes gan eraill hoff lefydd gwersylla y carent eu datgelu?


Aye, lle braf ...

Un lle da i gampio yw'r lle tu nol i westy Bryn Tyrch, Capel Curig. Nid 'i fod e'n perthyn i frid y camping sauvage, gan bod yn rhaid talu £5 y pen, ond mae'r boi sy'n rhedeg y lle'n 'sauvage' go iawn! Ffermwr Cymraeg yn'i bumdege hwyr yw e sy'n magu'i fab bach 5 oed ar ben'i hun. Ces a hanner sy'n dwli ar ganu hen emyne, a lle braf, braf i gampio heb fawr o neb yno gan nad yw e'n lle 'safonol', a'r bwyd llysieuol neisa'n byd yn y gwesty oddi tano, lle gallwch chi feddwi da'r ffermwr cyn ling-di-longio'r hanner canllath am y dent ... jyst peidiwch â derbyn 'i gynnig am fynd mewn am lased o wisgi :ofn:

Da.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Rhys » Mer 17 Rhag 2003 12:49 pm

Dan bont Britannia ochr Mon i'r Fenai, parciwch yn maes parcio gwety (Carreg Brân?)

Ddim am ddim ond gwersyllais mewn lleoliad gwych ar fferm o'r enw Allt y Coed dwi'n meddwl ddim yn bell o aberteifi. Hen lanc Cymraeg sydd berchen y lle a mae'n rhad dros ben. Ddim yn gyfleus ofnadwy i gerdded i'r dafarn agosa, ond gyda digon o boteli cwrw a mwg drwg bydd chi'n sorted.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron