Tudalen 1 o 5
Y 3 lle gwaetha i fod/fynd am dro yng Nghymru.
Postiwyd:
Gwe 02 Ion 2004 1:26 pm
gan Fatbob
Dyma ddechre arni...
1)Ikea.
2)Bae Abertawe - Dechre ym mhentre Margam, pasio'r gwaith dur, drwy dre Port Talbot, i fyny drwy Baglan Energy Park a'r pwerdy nwy newydd at ddocie Baglan ac i fyny drwy stad gownsil Giants Grave. Lyfli.
3)Brynamman.
Postiwyd:
Gwe 02 Ion 2004 10:05 pm
gan garynysmon
Caergybi, sef 'dre'. Mae o di mynd yn rel twll o le.
(sbiwch, dwi'n medru odli hefyd
)
Anodd meddwl am rywle arall yng Ngymru fach dwi di bod iddi, sy'n le afiach a dweud y gwir. Ynyswr ydw i cofiwch.
Postiwyd:
Gwe 02 Ion 2004 11:18 pm
gan cymro1170
Dydi Llandudno ddim yn le braf iawn i fynd am dro, llawn o hen fobl a mae'n chwythu'n arw yna!!
Rhyl - does dim angen dweud mwy!
Postiwyd:
Sad 03 Ion 2004 11:13 am
gan eusebio
garynysmon a ddywedodd:Caergybi, sef 'dre'. Mae o di mynd yn rel twll o le.
(sbiwch, dwi'n medru odli hefyd
)
Nonsens llwyr!
Wyt ti erioed wedi bod am dro o gwmpas Ynys Lawd? Does 'na'm llawer o lefydd hyfrytach yng Nghymru.
Yna gelli di gerdded o gwmpas Parc y Morglawdd i fyny at North Stack ac i fyny at Fynydd Twr.
Mae gormod o bobol yn rhy sydyn i ladd ar Gaergybi heb feddwl
Postiwyd:
Sad 03 Ion 2004 12:14 pm
gan Conyn
Port Talbot.
Benllech yn yr haf (na, dyw e ddim yn nefoedd o bell blydi ffordd)
Bonymaen. O ie. Neu falle Banwen.
Postiwyd:
Sul 04 Ion 2004 4:03 pm
gan garynysmon
eusebio a ddywedodd:garynysmon a ddywedodd:Caergybi, sef 'dre'. Mae o di mynd yn rel twll o le.
(sbiwch, dwi'n medru odli hefyd
)
Nonsens llwyr!
Wyt ti erioed wedi bod am dro o gwmpas Ynys Lawd? Does 'na'm llawer o lefydd hyfrytach yng Nghymru.
Yna gelli di gerdded o gwmpas Parc y Morglawdd i fyny at North Stack ac i fyny at Fynydd Twr.
Mae gormod o bobol yn rhy sydyn i ladd ar Gaergybi heb feddwl
Son am y dre ei hun ydw i, mae Ynys Cybi ei hun yn le godidog dros ben. Mae Rhoscolyn yn uffar o le neis hefyd, ond Dre yn edrych yn waeth bob tro dwi'n mynd drwyddi. Mae angen pres mawr yn fanno, a dim wastio'r cyfan ar rhyw gloc mawr ar y ffrynt chwaith. Fe ro'n i yn mynd i Breakwater park yn aml pan oeddwn yn blentyn.
Postiwyd:
Sul 04 Ion 2004 6:09 pm
gan Hogyn o Rachub
Gorfod cytuno efo dref Caergybi, yn anffodus, ond fel ma Eusebio'n deud ma'r ynys ei hyn yn le del iawn.
* Rhywle ar y Costa Geriatrica. Hyll iawn.
* St Mellons yn Gaerdydd. Holwch ddim bellach, plis. Butetown, hefyd.
* Llanbrynmair wastad yn lladd ar yr ysbryd. Edrych yn le diflas tu hwnt a fawr o'm byd del o gwmpas.
* Merthyr Tudful. Am dref hyll.
Postiwyd:
Llun 05 Ion 2004 1:54 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wy'n dechre swnio fel tiwn gron, ond Casnewydd. Casau'r lle.
Ddim yn or-hoff o Lanelli chwaith.
Tremorfa.
Crymlin yng Ngwent.
Y darn rhwng Hafodyrynys a Phont-y-pwl, sydd yn slag heap lle maen nhw wedi tyfu coed a phorfa ac ati mewn ymgais i 'neud i'r lle edrych yn hyfryd ac adfer y tir. Mae 'na greyr plastig 'na i geisio denu creyrod iawn i nythu 'na, ond wy erioed wedi gweld yr un creyr iawn. Maen nhw siwr o fod yn hedfan 'na, gweld pa mor llwm yw'r lle ac yn ffwcian bant 'to. Chi'n methu cael radio 'na, ac mae na un o'r tyrrau glanhau glo yno o hyd. Sori i fynd 'mlaen am y lle, ond roedd y bws ysgol yn mynd ar hyd yr hewl ddwywaith bob dydd am saith mlynedd.
Postiwyd:
Llun 05 Ion 2004 4:55 pm
gan Gruff Goch
Llanfrothen. Ma'r lle yn
evil.
Postiwyd:
Llun 05 Ion 2004 10:21 pm
gan Leusa
Gruff Goch a ddywedodd:Llanfrothen. Ma'r lle yn
evil.
Mond os ti'n mynd ar goll yn y goedwig yn y nos. Os ti'n aros yn Ring, ma'n hwyl.