gan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 05 Ion 2004 1:54 pm
Wy'n dechre swnio fel tiwn gron, ond Casnewydd. Casau'r lle.
Ddim yn or-hoff o Lanelli chwaith.
Tremorfa.
Crymlin yng Ngwent.
Y darn rhwng Hafodyrynys a Phont-y-pwl, sydd yn slag heap lle maen nhw wedi tyfu coed a phorfa ac ati mewn ymgais i 'neud i'r lle edrych yn hyfryd ac adfer y tir. Mae 'na greyr plastig 'na i geisio denu creyrod iawn i nythu 'na, ond wy erioed wedi gweld yr un creyr iawn. Maen nhw siwr o fod yn hedfan 'na, gweld pa mor llwm yw'r lle ac yn ffwcian bant 'to. Chi'n methu cael radio 'na, ac mae na un o'r tyrrau glanhau glo yno o hyd. Sori i fynd 'mlaen am y lle, ond roedd y bws ysgol yn mynd ar hyd yr hewl ddwywaith bob dydd am saith mlynedd.
I think I'll call myself Donald Twain.