Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2004 11:44 am
gan TXXI
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
TXXI a ddywedodd:comedy value


Ffyc off, Rhys.

:( paid neud fi grio!

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 7:37 pm
gan HBK25
Rhyl yn bennaf - mae nain yn dweud ei bod hi'n hi'n lle reit neis ers talwm (?!).

Mochdre - pentre bach ar y ffordd i Bae Colwyn. Mae'r cyfieithiad
Saesneg yn dweud y cwbl.

Unrhyw dref ar lan y mor yn y gaeaf.

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 7:45 pm
gan eifs
cymro1170 a ddywedodd:Dydi Llandudno ddim yn le braf iawn i fynd am dro, llawn o hen fobl a mae'n chwythu'n arw yna!!

Rhyl - does dim angen dweud mwy!




mae rhyl yn brilliant o le i fynd am dro, ond fuswn i ddim yn hoff iawn o byw yno

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 7:55 pm
gan Lodes Fech Glen
HBK25 a ddywedodd:Rhyl yn bennaf - mae nain yn dweud ei bod hi'n hi'n lle reit neis ers talwm (?!).

Mochdre - pentre bach ar y ffordd i Bae Colwyn. Mae'r cyfieithiad
Saesneg yn dweud y cwbl.

Unrhyw dref ar lan y mor yn y gaeaf.


Dwi'n anghytuno ag "unrhyw le lan y mor yn y Gaeaf". Achos amser ynni mae'r Brymis Di mynd adre i gyd. Un o'r llefydd gore yn y gaeaf ydi Aberdyfi.Mae'n dawel reit, dim ond ti y mor, a'r gwynt yn chwythu drwy dy wellt!

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 8:06 pm
gan Mabon.Llyr
Sneb wedi son am y mini-birmingham that is Borth eto. :o :o

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 9:11 pm
gan krustysnaks
Y Borth.

Ategu'r Rhyl.

Tregaron hefyd. Teimlo'n falch mod i dal yn fyw bob tro dwi'n gadael. Nifer y genynnau yn arbennig o isel (sori i bawb sy'n dod o dregaron - dwi'n gwbod bod 90% o boblogaeth ceredigion yn dod o na'n wreiddiol, ond mae'n rhaid i ddyn slagio'r lle i ffwrdd).

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2005 9:39 am
gan jiw jiw!
Awgrymodd HBK25 lle o'r enw Mochdre, fi eriod 'di bod 'na. Ond ma' gair gyda ni yn y Gorllewin 'ma 'mochdra' sy'n golygu rial mess. Ife 'na beth ma'e enw'n gyfleu falle?! ha ha! :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2005 11:32 am
gan Hogyn o Rachub
Dachi'n gwbo be, ma lot o Gaerdydd yn eitha hyll. Mae Canolfan y Mileniwm yr adeilad mwyaf hyll erioed, mae'i fel tyrd cawr. A Grangetown a'r Sblot (sy'n enw hollol wirion) ddim y llefydd neisa...

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2005 11:38 am
gan Cigfa
Es i am dro ar draeth Penmaenmawr Ha' d'wytha, roedd y tywod yn edrych yn euraidd ac yn hyfryd... Yn anffodus, roedd 'na gymaint o grap yn y mor fel bod y tywod o dan yr wyneb yn fwd du :x Nes i oro' gada'l par o drainers gojys yna :drwg:

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:04 pm
gan Gwenllian
Black Rock Sands yn yr haf- berwi o saeson coman! :x Ddim yn or hoff o Borthmadog ei hun chwaith, lle di-ddim ar y naw!