Postiwyd:
Gwe 29 Ebr 2005 2:39 pm
gan Geraint
jiw jiw! a ddywedodd:Awgrymodd HBK25 lle o'r enw Mochdre, fi eriod 'di bod 'na. Ond ma' gair gyda ni yn y Gorllewin 'ma 'mochdra' sy'n golygu rial mess. Ife 'na beth ma'e enw'n gyfleu falle?! ha ha!
Falle fod y Mochdre Bae Colwyn yna fel cwt mochyn, ond ma Mochdre Sir Drefaldwyn yn lle ffycin gorjys i fynd am dro, peidiwch gadw i'r enw rhoi chi ffwrdd!
Postiwyd:
Gwe 29 Ebr 2005 4:05 pm
gan Cawslyd
Gwenllian a ddywedodd:Ddim yn or hoff o Borthmadog ei hun chwaith, lle di-ddim ar y naw!
Ella, ond dim gwahanol i hanner trefi Cymru.
Postiwyd:
Mer 04 Mai 2005 6:52 pm
gan ap concord y bos
Gwenllian a ddywedodd:Ddim yn or hoff o Borthmadog ei hun chwaith, lle di-ddim ar y naw!
HOLD ON! Porthmadog yn le neis yn yr haf neu'r gaeaf am un rheswm penodol - COB RECORDS!
Postiwyd:
Mer 04 Mai 2005 7:08 pm
gan Cawslyd
ap concod y bos a ddywedodd:HOLD ON! Porthmadog yn le neis yn yr haf neu'r gaeaf am un rheswm penodol - COB RECORDS!
Ail reswm: dwi'n byw yna. Mae hynna'n dda(ish). Ond mae Cob Recs yn le bendigedig - does dim gwell na phori drwy CD's crap a da tra mae hi'n pisio bwrw tu allan. A hen LP's hefyd, wrth gwrs - pendigedig yn wir.
Postiwyd:
Iau 12 Mai 2005 11:25 am
gan Mici
Tri lle gwaethaf yn Nghymru
1. Rhaeadr - Neu radar fel adnabyddir gan y yokels lleol. Stopiais yn fama ar ffordd o Gaerdydd unwaith, twll o le. Mae'r strydoedd yn llawn land rovers efo sticeri Vote Conservative a Buy British. O gamu fewn i'r dafarn leol fe gefais fy ngroesawu gan bobl a oedd yn groes rhwng ecstras Heartbeat a Planet of the Apes.
2. Fairbourne - Yn gwneud Bermo edrych fatha Las Vegas, stopio drwyddo ar y tren yn hen ddigon. Yn edrych fel tre lan mor yn Lloegr circa 1972, yn llawn o Brummies tew ar 'sick' ers blynyddoedd.
3. Rhyl - Gweler Fairbourne ond ar raddfa mwy. Llai o Brummies fwy o sgowsars.