De Ffrainc, mis Mawrth - Awgrymiadau?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

De Ffrainc, mis Mawrth - Awgrymiadau?

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 04 Ion 2004 1:49 pm

Dwi am fynd i dde Ffrainc ym mis Mawrth am tua pythefnos (ella llai). Byddwn ni'n fflio draw, llogi car ac eisiau gneud cymysgedd o wersylla a gwestai/b&b's rhad. Bwyd a gwin ydi'r amcan pennaf a thipyn o gerdded hefyd.

Oes gan rywun awgrymiadau ar lefydd da i fynd, dwi wedi bod o amgylch ardal Dordogne o'r blaen ac yn meddwl mynd eto ond fasa'n neis cael trio man gwahanol.

Nais won chiefs.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Al Jeek » Sul 04 Ion 2004 2:40 pm

Odda ni'n arfer mynd i fan gwersylla ffanta-wobl-wobl pan yn ifanc reit yng ngwaelod ffrainc, i'r de o Perpignan. La Sirene oedd enw fo, a mi oedd gynna fo bwll nofio tropical ffantastic, cwrs mini golf, lle i chwarae peldroed a.y.b
Eniwe, yn yr ardal yna ti'n cael môr y canoldir, bob dim sy'n dda am ffrainc (y bwyd.) a y gallu i fynd i ogledd ddwyrain sbaen yn hawdd (e.e. Barcelona, parc Port Aventura a.y.b.
Hefyd ti'n fwy tebygol cael tywydd bach poethach achos ma o reit yn y de. Dreifio lawr odda nin neud ddo, achos bod ni'n hardcôr/insane/cheapskates. :winc:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Sul 04 Ion 2004 3:06 pm

Aaaaah La Siren! Dwisho mynd nol nawr, dyna fysa nostalgia trip.
achos bod ni'n hardcôr/insane/cheapskates.


Cheepskates.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan mred » Gwe 09 Ion 2004 5:58 pm

Mi wnes i fwynhau cerdded yn y Cevennes, llawer o lwybrau a chribau miniog/mynyddoedd heb fod yn rhy uchel, llety a llefydd gwersylla byddwn yn tybio (dwn i ddim a fyddent yn agored), ac heb fod yn andros o bell o Fôr y Canoldir. Mi wnes i ddilyn un o'r llwybrau GR o'r gogledd i lawr i Anduze. Pe baet yn mynd ganol yr haf, byddai'r Massif Central yn bosibiliad arall - ond byddai'n go wlawog yno yn y gwanwyn.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron