gan Y Celt Cymraeg » Mer 18 Mai 2005 8:30 pm
Spin arall werth ei neud , i mi , di cychwyn o stiniog, yna gyrru tua Porthmadog, na ymlaen tuag at llanwnda a throi i gyfeiriad Pwllheli, yna troi tuag at nefyn yn llanaelhaean, heibio i Tre' r Ceiri, hyd yn oed picio i fyny os di r amser yn caniatau, yna mlaen at nefyn, lle gellir unai cyfeirio at pwllheli, neu heibio i edern a sarn mellteyrn a pwllheli via llanbedrog(neu Upper-Aber fel y gelwir gan ein cymdogion o dros glawdd offa!!), cyn anelu nol at rhen ffestiniog!!
spin neis raid deud, a digon o ffyrdd gall rhywn "improvisio" hefyd i ymestyn/gwtogi neu newid chydig ar y daith!
Falle gen i ormod o amser ar fy nwylo yn mynd ar y fath spins ond dyna ni de!! pawb at y peth a bo de!!!!!
Erwyn J
O swyddfa' r cyfarwyddwr