Budapest

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Gwe 13 Chw 2004 2:22 pm

Mae ein criw ni yn aros yn y Fortuna Boat Hotel ar yr Afon Danube.
Mae pob ystafell wedi ei enwi ar ôl Môr Leidr enwog ...

bagsi Barti Ddu!!! :D
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mr Groovy » Gwe 13 Chw 2004 2:52 pm

eusebio a ddywedodd:Mae ein criw ni yn aros yn y Fortuna Boat Hotel ar yr Afon Danube.


Sshhhhhhhhh
Paid dweud wrth pawb!
:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Groovy
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 298
Ymunwyd: Iau 11 Rhag 2003 1:54 pm
Lleoliad: Pen yn y gwynt a thraed ar y llawr

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 09 Gor 2004 10:53 am

Dwi yn mynd yma am y penwythnos.

Faint o bres ddylsai cymeryd am y penwythnos tybed ?

Bysai unrhyw un yn argymell unrhyw le i fynd allan yno ?
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan eusebio » Gwe 09 Gor 2004 4:23 pm

Mwy na fydde ti'n ddisgwyl fynd efo ti i ddwyrain Ewrop - dyma un ddinas sydd wedi cymryd ymuno â'r Undeb Ewropeaidd o ddifri gan godi ei phrisiau!

Byddwn yn argymell unrhyw un i gael Turkish bath yno - profiad anhygoel ac yn hollol wych! 8)

O ran pybs a chlybs - roedd yna far coctêls da iawn (a rhad) o'r enw The Crazy Cafe (gweler).
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Gwe 09 Gor 2004 9:51 pm

Yn y Rudas baths fuo ni - am bod ni'n hoffi'r enw ;) - ger pont Erzsebet hid.
Mae o'n wych - tipyn bach o culture shock - ond yn wych - ac os elli di aros mwy na phum munud yn yr ail 'stafell stêm gei di £10!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan iwmorg » Llun 12 Gor 2004 8:02 pm

Aye, dinas reit dda. Os ti'n licio cerddad, dos at yr afon a cerdda reit i fyny'r bryn mawr 'na, ne dal y tram bach (fatha'r un yn lle technoleg amgen ym Machynllath) a fedri di weld yr holl o Buda a Pest - neis iawn ar ddrwnod braf.

Dwi'm yn gwbod os ydi petha 'di newid ers iddynt ymuno a'r G.E , ond reodd mwy neu lai pob dim yn ddigon rhesymol yno ddiwadd mis Mawrth.

Un peth- paid ag yfad gormod o'r diod lleol- Unicum Zwack ne rwbath felna- ddos i a poteli adra efo fi- ddim yn neis iawn!! :?

Un lle i osgoi- yr ynys 'na yng nghanol yr afon- sod all yno 'mond rhyw water park bach crap!!
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Postiogan Barrar » Llun 12 Gor 2004 8:53 pm

Dinas hollol lush. Ddim mor brydferth a Prag ond dinas go iawn, sydd ddim ofn dangos ei chreithiau o'r gorffennol. Peint reit dda na fyd!!
Rhithffurf defnyddiwr
Barrar
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Llun 21 Meh 2004 1:31 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 13 Gor 2004 11:00 pm

Wel dwi'n mynd yna ymhen bethefnos. Edrych ymlaen yn fawr iawn.

Dwi wedi yfed yr unicum. Afiach afiach afiach.

Os na unrhyw un wedi bod yn y turksih baths na ? Dwi mynd am penwythnos stag, felly fyswn yn hoffi perswadio fy nghyd-stagwyr i drio fo allan.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwestai ym Mwdapest!

Postiogan Gowpi » Mer 14 Gor 2004 8:34 am

Dilwyn Roberts-Young a ddywedodd:Stori hir ond mi fûm i unwaith yn aros yng Ngwesty Gelert - addas i rywun sy'n wreiddiol o Eifionydd!
http://www.spa.hu/angol/gellertspa_en.html
Y spa gorau'n y byd! Taflwch y'ch dillad i ffwrdd a thaflu'ch hun i'r dyfroedd twym a thawel!
Hwyl
Dilwyn


I rywun tlawd fel fi, aros mewn hostel wnes i gan ymweld a'r baddondai yn y Gelert - amesing! Pyrcs ym mhob man a'r unig ferched odd yn cael edrychiadau rhyfedd odd y ddwy Saesnes ddaeth mewn bicinis! Odd e'n gret gan fod yr Hwngariaid lleol yn mynd yno hefyd. Fe ges i masaj dim cystal ddo, gorwedd ar ford blastig fel sydd mewn bwtswr, ac wy'n siwr mai bwtswr odd yn slapo fi ambwyti fel darn o gig amrwd hefyd :ofn:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Gwestai ym Mwdapest!

Postiogan joni » Mer 14 Gor 2004 9:06 am

Gowpi a ddywedodd:I rywun tlawd fel fi, aros mewn hostel wnes i gan ymweld a'r baddondai yn y Gelert - amesing!

Y Gelert es i hefyd. Lle lyfli. Yn enwedig pan ddaeth llond trol o Eidalwyr 16 oed i fewn. Er, roedd rhywbeth dodji am eu hathro (dwi'n credu) nhw yn mynnu bod y merched i gyd yn neidio allan o'r dwr ar gyfer 'photo opportunity'. :ofn:
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron