Teithio i'r UDA (a fy nhwpdra i)

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Teithio i'r UDA (a fy nhwpdra i)

Postiogan Rhys » Maw 03 Chw 2004 11:43 am

Os chi’n bwriadu teithio i’r UDA ac wedi cael eich arrestio yn y gorffenol, hwyrach bydd y wybodaeth canlynol o ddefnydd i chi, neu hwyrach byddwch yn meddwl ei fod yn ddoniol a cewch chwerthin ar fy nhwpdra :wps: .

Fel rheol cewch fynediad i’r UDA am wyliau heb fisa, ond nid yw hyn yn wir os ydych wedi cael ei arestio yn y gorffenol.

Bues i mor wirion ag archebu tocynnau arwyren cyn gwneud yn gwbwl siwr o’m ffeithiau ac mi gostiodd yn ddrud (mewn arian ac amser).
Cefais wybod y byddai’n rhaid mynd i’r Llysgenhadaeth yn Llundain am gyfweliad a byddai’n cymeryd 12 wythnos i gael penderfyniad (mond codi posters oeddwn i wedi gwneud!) ac roedwdn i’n bwriadu hedfan ymhen with wythnos :crio: .

Dyma restr o’r costau ychwanegol:
    £90 i newid y ffleit a oedd i fod yn un rhad i ddechrau (a £90 i newid un fy nghariad)
    £65 am gais fisa
    £8 am lythyr o’r llys er mwyn cael manylion fy achos
    £25 am luniau passport ‘arbennig’ gan nad yw gwasanaethau fisa’r UDA yn derbyn lluniau passport arferol
    £66 am docyn tren agored i Lundain am nad ydynt yn medru gwarantu pa mor hir fyddwch yn aros am gyfweliad (byddai’n £100 oni bai am fy ‘Young Person’s Railcard’)


Roedd rhaid cymeryd diwrnod ffwrdd o gwaith yn amlwg, a phan gyrrhaeddais y Llysgenhadaeth ar gyfer 11:30, rhoddais fy mhapurau i mewn a disgwyl 3 awr cyn i foi alw fi ymlaen i’r ddesg, gofyn dwsin o gwestiynnau dibwys (a oeddwn eisioes wedi eu hateb ar y ffurflen) a dyma’r boi’n dweud ‘Visa Approved’ a death trwy’r post mewn llai na wythnos.

Felly yn y pendraw gallwn fod wedi teithio ymhen wyth wythnos beth bynnag. Yn amlwg, mae pethau’n symud yn gynt nawr gan nad yw’n ganol prif dymor gwyliau. A Hefyd mae fy record troseddol i am rhywbeth go dila, felly gall gymeryd yn hirach I ddyfarnu rhoi fisa os ydych wedi cyflawmni trosedd mwy difrifol.

Oes rhywun arall wedi cael profiad tebyg?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 03 Chw 2004 12:51 pm

Dwi wedi profiadu'r gwaith caled tu cefn i gael visa i ymweld a UDA.

Dwi'n gwybod bod rhaid cael cyfweliad i gael visa hir dymor os ydych gyda criminal records, ond nid am visa gwyliau.

Ond hanner y joc yw llenwi ffurflen gais visa ar ol i chi gyrraedd yn UDA, rhai o'r cwestiynau yw :

Are you coming to the USA with the intent to commit a terrorist act ?


Were you ever involved in the genocide in Europe between 1941-1945 ?


Od iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 03 Chw 2004 6:15 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:
Are you coming to the USA with the intent to commit a terrorist act ?


Were you ever involved in the genocide in Europe between 1941-1945 ?


"I certainly am! Say, does this harm my chances of getting in?"
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Mali » Mer 04 Chw 2004 3:17 am

Ydi, mae'n mynd yn anoddach bob dydd i deithio i'r UDA . Ar un adeg , fe fuasai trwydded gyrru o British Columbia wedi gwneud y tro, ond rwan , mae'n rhaid dangos ein passport.
Ella y dylwn nhw adeiladu wal rhyngom!!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan eusebio » Mer 04 Chw 2004 10:06 am

Byddai hynny o fydd mawr ichi yn y gogledd Mali ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Chw 2004 4:40 pm

or are a drug abuser or addict


Felly pryd maen nhw'n cyfyngu ar faint all Rush Limbaugh symud o amgylch y wlad? :winc:



Were you ever involved in the genocide in Europe between 1941-1945 ?


Yna dewch i ddatblygu'n cyfleusterau niwclear!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sbidirddyn » Iau 05 Chw 2004 11:40 am

death trwy’r post mewn llai na wythnos.

:ofn:
cred yn nuw a gwna dy waith
Rhithffurf defnyddiwr
sbidirddyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2003 3:18 pm
Lleoliad: caerdydd a'r west


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron