Fel rheol cewch fynediad i’r UDA am wyliau heb fisa, ond nid yw hyn yn wir os ydych wedi cael ei arestio yn y gorffenol.
Bues i mor wirion ag archebu tocynnau arwyren cyn gwneud yn gwbwl siwr o’m ffeithiau ac mi gostiodd yn ddrud (mewn arian ac amser).
Cefais wybod y byddai’n rhaid mynd i’r Llysgenhadaeth yn Llundain am gyfweliad a byddai’n cymeryd 12 wythnos i gael penderfyniad (mond codi posters oeddwn i wedi gwneud!) ac roedwdn i’n bwriadu hedfan ymhen with wythnos .
Dyma restr o’r costau ychwanegol:
- £90 i newid y ffleit a oedd i fod yn un rhad i ddechrau (a £90 i newid un fy nghariad)
£65 am gais fisa
£8 am lythyr o’r llys er mwyn cael manylion fy achos
£25 am luniau passport ‘arbennig’ gan nad yw gwasanaethau fisa’r UDA yn derbyn lluniau passport arferol
£66 am docyn tren agored i Lundain am nad ydynt yn medru gwarantu pa mor hir fyddwch yn aros am gyfweliad (byddai’n £100 oni bai am fy ‘Young Person’s Railcard’)
Roedd rhaid cymeryd diwrnod ffwrdd o gwaith yn amlwg, a phan gyrrhaeddais y Llysgenhadaeth ar gyfer 11:30, rhoddais fy mhapurau i mewn a disgwyl 3 awr cyn i foi alw fi ymlaen i’r ddesg, gofyn dwsin o gwestiynnau dibwys (a oeddwn eisioes wedi eu hateb ar y ffurflen) a dyma’r boi’n dweud ‘Visa Approved’ a death trwy’r post mewn llai na wythnos.
Felly yn y pendraw gallwn fod wedi teithio ymhen wyth wythnos beth bynnag. Yn amlwg, mae pethau’n symud yn gynt nawr gan nad yw’n ganol prif dymor gwyliau. A Hefyd mae fy record troseddol i am rhywbeth go dila, felly gall gymeryd yn hirach I ddyfarnu rhoi fisa os ydych wedi cyflawmni trosedd mwy difrifol.
Oes rhywun arall wedi cael profiad tebyg?