Lle i fynd am dro o Gaerdydd?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lle i fynd am dro o Gaerdydd?

Postiogan Mwddrwg » Maw 03 Chw 2004 1:40 pm

Ma gen i gywilydd cyfaddef, er mod i yng Nghaerdydd ers 2 a hanner mlynedd bellach dwi ddim yn nabod yr ardal tu allan i ganol y ddinas o gwbl. :rolio: Dwi newydd brynnu car ond ddim efo syniad lle fydda'n neis mynd am sbin. Sgen rywun unrhyw awgrymiadau? :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan DAN JERUS » Maw 03 Chw 2004 1:44 pm

Mae traeth southerndowne wastad yn ddewis poblogaidd.Dos tuag at Bridgend a throi i'r chwith yn rhywle tua hanner awr o gaerdydd.sori fod o'm mwy o help, ddim fi sy'n gyrru fel rheol! :winc:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Maw 03 Chw 2004 2:08 pm

Gray Hill. Bryn Llwyd falle, allaim ffindio'r enw Cymraeg iddo.

Parcia'r car ar un or ffyrdd o dan y bryn. Cerdda lan i'r top, ma na olygfaanhygoel o Gaerdydd, Casnewydd, y lefelau, yr Hafren, Dyfnaint ayb. Ma na gylch cerrig neolithic yno, a deimlad hynafol iawn i'r lle.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint (un arall) » Maw 03 Chw 2004 3:51 pm

Mae Lavernock Point (y Larnog yn Gymraeg?) wrth ymyl Penarth yn le braf. Mynd drwy Benarth am Sully a throi i'r chwith ar ol yr Harvester a mynd i ddiwedd y ffordd. Golygfa dda o Benarth, y Bae, Gwlad yr Haf a phont Hafren ar ddiwrnod braf!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Chw 2004 1:56 pm

O Drefddyn, uwchben Pontypwl, galli di gael golygfeydd gwych o Went gyfan. Dyna lle mae Ysgol Gyfun Gwynllyw. Tywydd ofnadwy am y saith mlynedd o'n i 'na, ond golygfeydd ysblennydd! Mae Parc Bannau Brycheiniog yn dechrau rhyw filltir lan o'r ysgol hefyd. Roedd traws gwlad yn golygu traws gwlad pan o'n i'n grwt... :drwg:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron