Hmmm..... dwi'n meddwl mai dewis mynd i Wlad yr Ia fuaswn i . Fe fuasa'n saffach o lawer i ti Macsen ond ella yn fwy costus.
Mi fuaswn inna yn hoffi gweld Gwlad yr Ia hefyd - wedi aros yno am ddwy awr ar y ffordd nôl i Ganada , ond 'roedd hynny am dri o'r gloch y bore . Y tro cyntaf i mi erioed fod mewn lle lle 'roedd hi'n ola yr adeg yna o'r nôs.
Dim ond un peth Macsen , paid a chael dy siomi , ond dwi ddim yn meddwl weli di run penguin yno.