Tudalen 1 o 3

Lle i Fynd ar Wylia Haf?

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 8:26 pm
gan Macsen
Dwi'n chwilio am wlad diddorol i fynd iddo haf yma. Dwi'n considro Gwlad yr Ia, Botswana neu yr Aifft. Unrhyw syniadau?

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 8:27 pm
gan Dr Gwion Larsen
Stalk en Trenet, ne Rhyl falle?

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 8:45 pm
gan Aran
mae'r Aifft yn andros o le difyr. dos i saqqara yn lle giza, os felly. a dysgu rhywfaint o arabeg cyn fynd... :winc:

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 8:48 pm
gan Macsen
Dwi'n meddwl mai i Giza a i os ydw i'n mynd i'r Aifft, i weld y pyramids dw i wesi bod yn obsessed a nhw ers fy mhlentyndod (mae nhw fyny yna efo 'deinasors' fel peth i'w gweld cyn marw). Mae Rhyl yn swnio'n ddiddorol 'fyd. Clywais ryle mai' tomen o wastraff llosgiedig oedd yr 9th wonder of the world.

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 9:03 pm
gan Aran
ia... ond mae rhai giza yn newydd-anedig wrth gymharu a phyramids saqqara - llai ar ran maint, ond miloedd o flynyddoedd yn hyn. dos i giza, paid â phrynu 'hen luniau papyrus prin uffernol', a llogi ceffyl a thywysydd i fynd y rhai milltiroedd i saqqara. mwy o le i gerdded o gwmpas ynddynt, mwy o deimlad bod rhywun wedi disgwyl (os ydy hynny'n gwneud synnwyr), mwy o... wmbod... amser...

a gyda nos yng Nghairo, paid hyd yn oed meddwl am fynd i far mewn gwesty - gofyn i rywun am y caffi shisha agosaf, a gei di shisha a sudd hibiscus trwy'r noson am lai nag un coffi yn y gwestai crand...

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2004 11:08 pm
gan eusebio
Tyrd i Iran, Azerbaijan a Turkmenistan efo ni :)

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2004 12:11 pm
gan tafod_bach
ma gwlad yr ia yn hollol amazing yn y gaea, hyd yn oed pan mae'n dywyll tua 2/3 o'r amser. ergo, fydd o hydnoed gwell yn yr haf, pan fydd na ddim tywyllwch o gwbwl! iei! ma hi yn wirioneddol ddrud yno, os ti'n meddwl mynd am amser hir - dim ond i reykjavik fues i (odd hi'n rhy dywyll i fentro i unrhywle arall), ond buodd ffrind i fi'n gwersylla wrth y fjords (oes na fjords yng ngwlad yr ia? ti'n gwbod, llefydd efo pyllau a phlanhigion neis) ha dwytha a mwynhau gormod o lawer. ma rhaid i ti fod yn barod i fyw ar doritos a skyr ("it is NOT jogurt, sara. it is SKYR.") os ti'n sgint ddo.

fel arall, os ti'n bodderd i sortio visa allan, tria rwsia (yn enwedig st petersburg) - uffernol o rad, scary, tlws, mental etc...

s
x

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2004 2:56 pm
gan Macsen
Eusebio a ddywedodd:Tyrd i Iran, Azerbaijan a Turkmenistan efo ni


Ryw fath o wylia 'olaf' nostalgic teuluol di hwn. Wel gan bod fy annwyl fam yn talu allai'm cwyno! :D

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2004 4:10 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ynys Enlli? ti di bod yno?.

Gwlad da mmm beth am Awstralia neu UDA neu beth am edrych am rw ynys ne wlad bach yn rywle?

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2004 4:13 pm
gan Macsen
Wedi bod yn rhan fwyaf o'r UDA. Rhu debyg i Ewrop, jyst a lonydd syth a mwy o bobl tew. Dwisho mynd i rywle diddorol, plis. Fel y Temple of Doom 'mas o Indiana Jones.