Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 11:52 pm
gan Mali
Hmmm..... dwi'n meddwl mai dewis mynd i Wlad yr Ia fuaswn i . Fe fuasa'n saffach o lawer i ti Macsen ond ella yn fwy costus.
Mi fuaswn inna yn hoffi gweld Gwlad yr Ia hefyd - wedi aros yno am ddwy awr ar y ffordd nôl i Ganada , ond 'roedd hynny am dri o'r gloch y bore . Y tro cyntaf i mi erioed fod mewn lle lle 'roedd hi'n ola yr adeg yna o'r nôs.
Dim ond un peth Macsen , paid a chael dy siomi , ond dwi ddim yn meddwl weli di run penguin yno. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 8:02 am
gan nicdafis
Beth am <a href="http://maesymorfa.com">Langrannog heulog</a>?

[/sbam]

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:09 pm
gan Dai Tecsas
Sri Lanka :D rili gwd

PostioPostiwyd: Mer 17 Maw 2004 1:15 am
gan Wil wal waliog
Gwlad Pwyl: Krakow, Czestochowa a Zakopane fues i iddyn nhw. Gwych. Glywes i ddim gair o Saesneg, na unrhywun bron yn medru'r iaith chwaith, tra yn Zakopane, sef resort sgio; neis yn yr haf hefyd. Fydden 'i yn awgrymu Gwlad Pwyl i unrhywun; wel ddim pawb falle!

Cwrw Zywiec yn flasus, rhad a chryf :winc: . Biwt.

PostioPostiwyd: Mer 17 Maw 2004 1:19 am
gan Hywel Ainsley
Mae'n anodd curo'r Isle of Wight...gosa sgin ti uffar o ffon hir.

PostioPostiwyd: Mer 17 Maw 2004 1:22 am
gan Wil wal waliog
nicdafis a ddywedodd:Beth am <a href="http://maesymorfa.com">Langrannog heulog</a>?

[/sbam]


Ha ha ie! :D Lock in yn y Pentre. Gweld ishe mynd am Guinness bach i Langrannog :winc: .

gwylie...

PostioPostiwyd: Iau 18 Maw 2004 3:36 pm
gan Gowpi
Os ti am fynd i'r Aifft mae'n rhaid ymweld a'r amgueddfa yn Cairo a threulio dwrnod yno. Dyw Cairo ddim yn cysgu ac ma'r swn yn aflafar. Ma'r pyramids yn Giza yn werth eu gweld ac yn syndod o agos i Cairo. Gwna'n siwr dy fod yn gallu cyfri i oleia' 10 yn Arabeg - yn ysgrifenedig hefyd. Byddwn yn gofyn prisiau ffrwythe ac ati a'r gwerthwyr yn codi'r pris o'r hyn odd yn ysgrifenedig amlwg!

RHAID i ti fynd ar daith felluca - cwch bach yn cario tua 8 o bersonau. Taith o dridie a thair noson ar y cwch i lawr y Nil. Stopio ar ynysoedd gyda'r hwyr i allu gael cachad yn y berth a choelcerth fawr gyda Nubiaid yn canu, taro drymiau a sawr melys yn yr awyr...

Mae'r pibau shisha yn fodd i fyw...

Ar y cyfan - profiad gwych, ond falch cael gadael - gormod ddyn! :winc: [/i]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Maw 2005 10:29 am
gan Norman
Mae'r amser wedi dod i feddwl am grwydro'r ha' ma eto !

Pwy sydd wedi bod yng ngwlad Pwyl ?
Wedi cael rhyw hanner syniad o hedfan Easyjet i Berlin wedyn dreifio (wrach) i Poznan. Oes rhywun wedi bod yn yr ardal yma / Unrhywun efo syniad o betha gwell yng ngwlad Pwyl ?