Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2004 7:43 pm
gan Siffrwd Helyg
Un darn o gyngor, tria cael gafael ar ryw ddarn o ID sydd yn dangos bod ti'n oleua yn 21 oed. Beth ddigwyddodd i mi pan oedd yn coleg yn Galway rhwng 1997-98 oedd bod rhai tafarndai ddim yn gadael unrhyw un o dan 21 i fewn.


BLydi hel, a fi'n meddwl bydde dyddie'r ffec ids (dim bod fi rioed di dweud celwydd am oedran fi :rolio: :rolio: ) yn dod i ben unwaith mod in 18aw!!

Ydy hyn yn wir am dafarndai Dulyn hefyd??

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2004 8:20 pm
gan garynysmon
Yn bersonnol, dwi rioed di cael problemmau yna. Fe gesh i fy I.D'io y tro dwytha esh i yno. Fe glywais i fod rhaid bod yn 21, cyn i mi fynd yno hefyd. Dim chydig o urban myth ydi o?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2004 9:15 pm
gan Dr Gwion Larsen
dyma le da i chi :winc: leisens gyrru cyfreithlon i chi!http://www.fakeidentification.co.ukda de!

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2004 11:58 am
gan Cwlcymro
Dim un tafarn yn Nulun isho ni fod yn 21. POB UN isho ID ddo. Yn ol be ddalltis i ma'n gyfraith fod unrhywun dan 21 angen dangos ID cyn mynd mewn i dafarn. A ma nhw'n strict iawn efo'r polisi yna (ac wrth ID dwi'n son leisans gyrru)

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2004 2:11 pm
gan iwmorg
Mai'n uffernol o 'hit and miss' yn Nulyn. Rhai llefydd ddim eisiau ID o gwbl, rhai eisiau i ddangos bo chdi'n 18, ac mae'n wir, mae rhai llefydd yno eisiau ID i ddangos bo chdi'n 21.

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2004 11:39 pm
gan Madrwyddygryf
Wel fe ddigwyddod tua hanner dwsin o weithiau i mi pan oeddwn yno, ac mi chefais fy troi i ffwrdd o gwpl o lefydd.

Ond mae'n hit and miss yw e. Roedd hyn yn amser lle roedd Iwerddon yn ffasiynol i gael noseuon stag/hen ac felly roedd llawer yn stopio rhag grwpiau rhad dod i mewn i dafarndai. Dwi ddim yn hollol sicr beth yw trefn yn Iwerddon erbyn hyn.

Yr peth gorau yn fy marn yw cael gafael ar ID sydd yn edrych yn swyddogol. Roedd un stiwdant o California yn defnyddio ei ffug ID o California ac ni chafodd unrhyw drwbl

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 5:22 pm
gan Bubbly Bee Bops
:crechwen: IWERDDON!! :crechwen: