Garej Lon Glan Mor

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Garej Lon Glan Mor

Postiogan fela mae » Mer 03 Maw 2004 8:23 pm

Dwim yn gwbod os dwi yn y seiat iawn ond os gan rywyn lun o garej lon glan mor ne all rhywyn ddisgrifio sut fath o le ydy o plis a lle yn union mae o - gwbod bod o yng nghyffiniau bangor
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan kamikaze_cymru » Mer 03 Maw 2004 8:35 pm

ar beach road, bangor dwi'n meddwl. pa gwmni newydd ddisgyn allan o nghof. owel, BP ne Texaco dio.

cyfarwyddiadau o sdeshon bangor:

yn y jynction mawr dos yn syth ymlaen a paid a sdopio tan ti'n gweld y mor, paid a troi off chwaith,ar ol pasio'r pwll nofio ddoi di at dickie's boat yard ar gornel efo depot arriva dros ffordd, drws nesa i dickie's boat yard ma'r garij. dwi'n meddwl na hwnna di'r un iawn.

os dwi'n rong, nai neud fy sdynt llabyddio eto.
peidiwch bod ofn gofyn y cwestiwn dwl
ymddiheuriadau am y malu awyr

http://kamikaze-cymru.blog-city.com/
Rhithffurf defnyddiwr
kamikaze_cymru
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 471
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 6:18 pm
Lleoliad: Fy ngwely

Postiogan Gwalch Bach » Iau 04 Maw 2004 12:25 am

Ia, hwnna 'dio. Ma Iwan Llwyd 'di sgwennu cerdd am y lle ac mae o'n 'i pherfformio ar un o GDd'au Steve Eaves. Mmmmmm. Clasur.
Cos din taeog ac fe gach i'th ddwrn
Rhithffurf defnyddiwr
Gwalch Bach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 3:19 pm
Lleoliad: Berfa

Postiogan Meic P » Iau 04 Maw 2004 9:38 am

garej BP dio.

am y garej YNA ma'r gan!! can dda, ond oni wastad di meddwl mai am y garej Shell ar lon Caernanfon oedd y gan :wps: :wps: dwi'm yn gwbod pam chwaith
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan fela mae » Iau 04 Maw 2004 11:50 am

.[/quote]Ia, hwnna 'dio. Ma Iwan Llwyd 'di sgwennu cerdd am y lle ac mae o'n 'i pherfformio ar un o GDd'au Steve Eaves. Mmmmmm. Clasur.


Ie dyna pam ron i isio gwbod lle yn union odd o .. dyna di darn llefaru yr urdd rhwng 15-19 leni . Angen bach o wybodaeth er mwyn medri dychmygu'r lle - diolch. Llun gan rywyn ?
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Gruff Goch » Iau 04 Maw 2004 11:57 am

Meic P a ddywedodd:garej BP dio.


Mae o wedi newid i fod yn garej Texaco ers tua deufis. Heb fod ym Mangor yn ddiweddar Meic? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Meic P » Iau 04 Maw 2004 12:06 pm

ddim yng ngola dydd gruff.


beth bynnag, dyma lun o leoliad y garej CYN iddo gael ei adeiladu. gobeithio bod hyn yn help, er... dwi'm yn meddwl fydd o gan mai am y garej ma'r gerdd.

ma'r garej wedi ei leoli ar y lon heibio i'r cae pel droed - er, ella bod y garej yno, ond ddim yn glir.

http://uk.geocities.com/awoodvine/bangor/pages/beachroad.html
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Llewelyn Richards » Iau 04 Maw 2004 1:41 pm

Jaisys am sbwci - oni'n actiwali gwrando ar y gan pan weles i'r edefyn.

Un o fy hoff ganeuon erioed - clasur llwyr - mae'r garej wrth ochr Dickie's Boatyard ac fel un a oedd yn ymlwybro yno ar lawer i noson oer ac unig, mae Steve Eaves wedi dal awyrgylch a naws arbennig y lle yn ardderchog.

Ydi Geraint dal yno yn gwrando ar Atlantic 252 ac yn mesur ei oriau fesul paneidiau?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Gwalch Bach » Mer 10 Maw 2004 12:26 am

Meic P a ddywedodd:am y garej YNA ma'r gan!! can dda, ond oni wastad di meddwl mai am y garej Shell ar lon Caernanfon oedd y gan :wps: :wps: dwi'm yn gwbod pam chwaith


Asu, Meical, o'n i'n meddwl bo chdi'n hollwybodus ym maes miwsig Cymraeg? Tidi colli bren-sel ne rwbath 'da?! :winc:
Cos din taeog ac fe gach i'th ddwrn
Rhithffurf defnyddiwr
Gwalch Bach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 3:19 pm
Lleoliad: Berfa

Postiogan Meic P » Mer 10 Maw 2004 10:08 am

Gwalch Bach a ddywedodd:Asu, Meical, o'n i'n meddwl bo chdi'n hollwybodus ym maes miwsig Cymraeg? Tidi colli bren-sel ne rwbath 'da?! :winc:


Ia! wel! :wps:
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron