Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 1:09 am
gan Macsen
Edrych yn hwyl, Mali. Swn i'n licio mynd lawr ag ysgytlaeth mowr oer yn fy llaw. Faint o eira chi'n cael lle ti'n byw?

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 2:44 am
gan Mali
Edrycha o dan y snow cam [ top y dudalen ar yr ochr dde ] , ac mae'n rhoi y 'snow report' i ti yn ddyddiol. Heddiw, mae'n 325cm. Fedrai i ddim meddwl mewn termau cms, a be di hynny mewn troedfeddi dwi ddim yn gwybod! Dwy flynedd yn ôl , fe gawsom 'dumping' go iawn o 17 troedfedd ar y mynydd!
Hwyl!

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:31 am
gan Cwlcymro
Bladio dwi'n ei licio. Y sgis bach bach na. Ma genti fwy o gontrol a mwy o gyflymdra. A ti'm yn goro isda ar dy din bob tro tisho brec fatha'r eirfyrddwyr na!

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:40 am
gan Al Jeek
Cynog a ddywedodd:Hei Jeek, esdi rownd Waenfawr ar dy eirfwrdd? Mi odd Rhiwlas yn gret. Wedi cael llynia a vidios da o fi a gruff ar y mynydd tu ol i'r ty. Mi odd o'n rhyfadd gallu neud math yna o betha yn dy rardd gefn!


Naddo yn anffodus, roeddwn i rhy ddiog i gerdded yr holl ffor fyny Moel Eilio. :winc:
Felly nesh i a Trefor drio adeiladur iglw i Twm yn yr ardd. Nath o'm gweithio. Ma Twm yn lwcus i fod yn fyw. :winc: :D

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 12:17 pm
gan Norman
o nin sgio lot o blaen, ond wedyn neshi droi'n ormod o westr i neud yr ymarfer corff sydd angen cyn mynd allan ir alps, so neshi jus troi n sno-bordar, sef dal y lift i fyny, bordio dipyn or ffordd lawr, wedyn ista ar nhin ar ganol y piste am oes jus n sbio ar bawb arall yn pasho, aidial.

Maer neidio lot gwell, ar dillad !

Ond cytuno efo'r boi oedd yn son am blades / big foots - sgis bach bach sydd yn hollol smart fyd !

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 4:46 pm
gan Mali
Tydi'r sgis bach ddim mor boblogaidd a hynny yma eto, ond dwi wedi gweld rhai yn eu defnyddio. Mae'r sgis yn edrych yn eithaf cwl , ond dim poles???? Methu dychmygu sgio heb poles !!

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 6:54 pm
gan Siffrwd Helyg
neud yr ymarfer corff sydd angen cyn mynd allan ir alps


Damo, odd gen i deimlad mod i di anghofio gwneud rhywbeth cyn mynd... :rolio: :rolio:

:winc:

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 2:20 pm
gan Cwlcymro
Mae'r sgis yn edrych yn eithaf cwl , ond dim poles???? Methu dychmygu sgio heb poles !!

Dyna oni'n feddwl i ddechra hefyd, ac i ddeud y gwir mi wti yn edych ychydig fel wannabe snowboarder wrth ddefnyddio dy freichiau i gadw balans, ond y funud ti wedi arfar (sydd mond yn cymeryd un bora os wti wedi arfar sgio) ma nhw'n wych.