Brazil

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brazil

Postiogan CarliWils » Mer 17 Maw 2004 5:33 pm

Haia
Cwestiwn odd, bach yn bizzare, a falle hollol wedi colli 'mhen....OND Wy wedi dechre neud Capoeira (Martial Art o Brazil....y ddau fachgen ar y BBC yn ei wneud ar ben adeilad!?) a mynd bach yn obsessed 'da Brasil.

Eniwe, haf yma hoffwn i fynd i brazil am ryw tair wythnos i deithio....OND mae lot o bobl di dweud ei fod bach yn beryglus i deithio 'na ar eich pen eich hun. Unrhyw tips? Unrhywun 'di bod 'na? unrhywun ffansi mynd 'na haf yma???? NO PSYCHOS NEED APPLY!!
Rhithffurf defnyddiwr
CarliWils
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 13 Ion 2004 11:08 am
Lleoliad: caerffili

Postiogan Meic P » Iau 18 Maw 2004 10:04 am

Dwi di bod yn Brasil. 8) yn haf 1994 pan ddaru nhw guro cwpan y byd!! :D

Lle cool. dwim yn gwbo os dio'n beryg rili.

I Rio fues i yn aros hefo ffrindia yn ardal Barra.
Ffantastic o le, a mi fydd hi'n hen ddigon poeth i unrhywun o Gymru yn eu gaeaf nhw (neu haf ni)


So...betishowbod?
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan CarliWils » Iau 18 Maw 2004 1:53 pm

:D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D

Am faint fues ti yna?
'Wy moyn gwbod, llefydd cwl i fynd, bars cwl...llefydd i ddawnsio, ac os yn bosib lle i wneud Capoeira (weles ti unrhyw capoeira tra bo ti yn brazil??)

Rwy'n meddwl hedfan mewn i Sao Paulo, gan fod hi gymaint yn rhatach, ond wedyn treulio lot o fy amser yn Rio gobeithio. Ydy hyn yn realistic? Sut ma'r trafnidiaeth cyhoeddus???

Basically hoffwn i gwbod cymaint â phosib o dy brofiadau- negatif a phositif!!!
Rhithffurf defnyddiwr
CarliWils
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 13 Ion 2004 11:08 am
Lleoliad: caerffili

Postiogan Meic P » Iau 18 Maw 2004 2:30 pm

Yn anffodus, nol yn 1994 doni'm digon hen i fynd rownd bars Rio!!

Mana atyniadau enwog iawn yn Rio. Dyma rai o'r enwocaf
- Y Corcovado - Cerflyn Enfawr o Iesu Grist ar ben MynyddDelwedd
- "Sugar Loaf" - Mynydd Siap od gyda cable car yn mynd iddoDelwedd
- Maracana! - Stadiwm Pel Droed Enwog iawn. Y Mwyaf yn y Byd nol yn 1994 (dwin meddwl? eusebio?). Es i yno i weld gem Vasgo de Gama v Geremio!Delwedd

Ymmm... bars cool? Dwi'n siwr fod na ddigon o gwmpas y Copacabana :D :D :D
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Geraint » Iau 18 Maw 2004 3:11 pm

Ma Capoeira Caerdydd yn meddwl am drefnu drip i Brazil yn yr haf, gyda nhw wy ti?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhys » Gwe 19 Maw 2004 10:45 am

Ie gyda Capoeira Caerdydd...dim ond cwpl wthnose ddo...felly sai'n dda iawn ar hyn o bryd! Rwy'n gweithio tipyn ar brosiectau gwahanol yn yr haf ('da'r Urdd) so falle fyddai ddim yn gallu mynd gyda nhw...ond newn ni weld!!!

Ti'n neud Capoeira? Os na ti'n colli mas, ma'n wych!!!!
Mwa
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan CarliWils » Gwe 19 Maw 2004 10:48 am

Wps.....gen i oedd y neges dwetha gyda llaw-nid Rhys (defnyddio cyfrifiadur rhys ydw i) Dodd e ddim yn hapus gyda'r ffaith fy mod i di cynnwys Mwa yn ei enw fe!!! Heee hee hee...
Rhithffurf defnyddiwr
CarliWils
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 13 Ion 2004 11:08 am
Lleoliad: caerffili

Postiogan Geraint » Gwe 19 Maw 2004 2:26 pm

*phew*

Dwi ddim yn neud Capoeira, ma ffrind yn mynd i un Gaerdydd, Richard, mae o efo dredlocks.

Swnio'n diddorol, pwy mor heini sydd angen bod? Allaim neud handstand :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan CarliWils » Gwe 19 Maw 2004 2:54 pm

:P
Hey 'wy'n nabod Richard...enw capoeira fe yw "Rasta".
Fedrai ddim neud handstands chwaith, ond ma lot mwy i capoeira na hynna...ma'n rhaid dechre rhywle!????

'Swn i rili yn argymell unrhywun i drio fe am chydig wythnose oleua - ma'n hynod demanding, ond mor mor mor satisfying hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
CarliWils
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 13 Ion 2004 11:08 am
Lleoliad: caerffili

Postiogan Rhys » Gwe 19 Maw 2004 3:03 pm

CarliWils a ddywedodd:Wps.....gen i oedd y neges dwetha gyda llaw-nid Rhys (defnyddio cyfrifiadur rhys ydw i) Dodd e ddim yn hapus gyda'r ffaith fy mod i di cynnwys Mwa yn ei enw fe!!! Heee hee hee...


:drwg: ... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai

cron