Tudalen 1 o 1

Yn eisiau - pobl sy wedi bod i Gorc

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 9:16 pm
gan dihiryn hawddgar
Dw i'n mynd i Gorc ym mis Mai am wythnos am y tro cynta ac o'n in meddwl y dylwn i gymrud mantais o'r bobl sy wedi bod yno o'r blaen. Lle yw'r trefi gore a'r dafarnnau gore? Dyn ni'n bwriadu gwersyllfa ond hoffwn i fod yn agos at ryw pentre er mwyn cael rhywbeth i'w neud gyda'r nos. Oes 'na unrywle i'w osgoi? Rhannwch eich profiadau Corc os gwelwch chi'n dda! Diolch o flaen llaw.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 5:18 pm
gan Meiji Tomimoto
Paid a mynd i barti dyweddio yn noc na heeny! - Henrys yn Cork city yn bar da.
Ma na pub da ty allan i corc or enw The Top of Coom yn ymyl Coolea lle ma pawb yn siarad gwyddelig ac yn chwara rils.'Dir blarney stone dim yn bell o fana, os ti'n cusanu y garreg ti'n llwyddianus efo merchad am byth a ballu!
dwi ddim yn siwr syt ti'n sillafu dim o'r enwa ma.
Paid yfad ginis mewn bars lle ma 'na beicars.
Os oes rhywyn yn cynnig yoke i ti - deud na.
A watcha dorri dy galon, ma'r merchad yn lyfli!

Mae Bantree Bay yn le da 'fyd a Glengariff.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:36 pm
gan dihiryn hawddgar
Diolch am y tips i gyd - ramant gwyddelig - hir ai cym! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 2:42 pm
gan Cardi Bach
Paid yfed Guinness ffwl stop yn Corcaigh.
Ma Murphy's a Beamish yn cael eu bragu yng Nghorcaigh, a rheiny yw'r neisa yno.
(Ma aelod o'r maes yma yn dod o'r ddinas - bydde fe lot yn well na fi i weud y pethe hyn!)
Ma na ddiawl o far briliant - ond od - yng nghanol Corcaigh - Hib Bar - cadw olwg mas amdano fe - mae e ar bwys y GPO (General Post Office). Dim ond arwydd uwchben sioop sydd 'na yn gweud Hib Bar, wedyn ma drws a grisie. ti'n mynd lan y grisie - rili dinji - wedyn ti'n mynd trwy ddrws i hen sdafell a ma na far ar ddiwedd y sdafell a lot o gadeirie a pheth. ma lot o gymeriade yna (a thwrists), ac ar...nos fowrth?...ma hen foi meddw dwll yn chware synth/piano ac yn neud 'any requests' - ma pob ton Gymrag mae'n wbod yn swno'r un peth!
Ma na far bach da ar bwys yr hen An Crannog (bar arall sydd bellach wedi cau). Jyst sdafell hir yw e a bar ar un ochor. ma nhw'n neud 'take-out's' ar ol stop-tap (a loc-in's da). Paid mynd i Waxy's - ych.

Cofia fynd i Cobh. Braf iawn yn yr haf.
Cofia yfed Bullmers Cider hefyd. Mae'n cael ei fragu yn Clonmel (Leinster?)
Ma na bentre da iawn tua 30 milltir i'r De orllewin ar yr arfordir - Clonakilty - ardal Michael Collins a ma lot i neud na o ran hanes a diwylliant.
Ath criw o ni 'na haf dwetha a reial mwynhau.

Mwynha!

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 3:17 pm
gan eusebio
Mae 'na distillery chwisgi Gwyddelig ger llaw hefyd - rhywun yn cofio enw'r pentref ? - ac mae'r hen distillery wedi ei droi'n amgueddfa - werth chweil mynd yno am drip!

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 4:37 pm
gan Jeni Wine
Rioed di bod yn Cork, ond mae o'n swnio'n le hyfryd. Yr unig beth wn i ydi mai Cork Dry Gin di'r jin gora'n y byd. Mae o'n melo neis a fatha melfad lawr dy gorn gwddw di.

Tyd â photal nol i mi os gei di jans :winc:

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 2:57 pm
gan Cardi Bach
eusebio a ddywedodd:Mae 'na distillery chwisgi Gwyddelig ger llaw hefyd - rhywun yn cofio enw'r pentref ? - ac mae'r hen distillery wedi ei droi'n amgueddfa - werth chweil mynd yno am drip!


Midleton - cartref Jameson! mmmmmmmmm
Stwff neis yna, a mond tua 10 milltir neu rwbeth o Corcaigh.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 10:53 am
gan dihiryn hawddgar
Mae'n arddangos bod y sir yn boddi mewn mor o alcohol! Dw i ddim yn yfed "ysbrydion" fel rheol ond mae jyn yn swnio'n neis Jeni. Dw i ddim yn siwr os ga i ddigon o arian ar ôl i brynu jin i ti - beth am can twym o Beamish?
Diolch am y cyngor ynglyn a lle i fynd gyda'r nos (neu yn y dydd - wel bydda i ar ngwyliau).

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:36 am
gan eusebio
eusebio a ddywedodd:Mae 'na distillery chwisgi Gwyddelig ger llaw hefyd - rhywun yn cofio enw'r pentref ? - ac mae'r hen distillery wedi ei droi'n amgueddfa - werth chweil mynd yno am drip!


Middleton ydi enw'r lle - nes i gofio'n sydyn ar y ffordd i'r gwaith bore 'ma ;)