gan Geraint » Maw 24 Awst 2004 10:42 am
Dwi mewn cariad efo Ffrainc. Y bwyd, y pobl, y iaith, yr acen. Mi oedd Chamonix yn lle anhygoel, mynd fyny i fynyddoedd 2500m (dwy a hanner uchder y wyddfa) o uchder, ac edrych draw ar Mont Blanc (4800m!!!). Cerddes i ddim fyny yr holl fordd (dim digon ffit), ma'r liffts yn help fawr, ond cerdded nol lawr o'r copanon o ni'n neud, o uchder mawr lle mae' aer yn dennau, yr awel y oer a fresh, a lle cew chi gerdded mewn i dwnel rhew yn glacier. Yna i lawr, mae'r coed pinwydd yn dechrau, ar rhosdir yn gorffen, Wrth ddisgyn, da chi'n raddol yn tynnu y cot ffwrdd, mae hi'n poethi, a diwedd lan yn eich crys t yn chwysu peints. Mae'r llystyfiant yn troi yn wyrddach, blodau pobman, adar yn canu. Ar ol rhyw ddwy awr, mae eich coesau yn teimlo fel jeli, ond yna clwych chi swn prysurdeb y byd islaw dan y coed, a da chi'n gwybod dyw hi ddim yn bell i'r dre, lle cew chi gwrw hyfryd a gwasanaeth da.
Gwyliau lle da chi'n neud rhywbeth, yn hytrach na diogi a llosgi dan yr haul, yw'r dyfydol i mi. Y tro nesa nai gerdded i fyny'r mynydd yna.