Tudalen 1 o 1

Newydd ddod adref o ...

PostioPostiwyd: Sad 17 Ebr 2004 12:10 am
gan Mali
faes awyr Comox!
Heddiw , 'roedd 'na ddiwrnod agored i ddathlu agoriad swyddogol yr adeilad newydd ar gyfer teithwyr y maes awyr. 'Roedd yn ddiwrnod arbennig i ni gan fod enw Cymro Cymraeg wedi ei ddewis ar gyfer y 'terminal ' newydd. Heddiw , enw Cyril Morgan Cottingham sydd ar flaen yr adeilad.
Daeth Cyril Cottingham i Ddyffryn Comox gyda'i deulu ym 1927 - yr holl ffordd o Goginan, ger Aberystwyth, a phan aeth ef a'i frawd a'i chwaer i Ysgol Lazo, nid oedd yr athrawes yn eu deall, gan mai dim ond Cymraeg y siaradant. 'Roedd yn ddisgybl disglair .Ymunodd a'r RCAF yn 1939, ac fe basiodd fel peilot yn ddiweddarach. Ym 1942, fe gafodd ei yrru i Brydain , ond ar ei 19 daith , fe gafodd F/O Cyril M Cottingham a'i griw o chwech eu saeth i lawr dros Fôr y Gogledd. Ni chafodd neb eu hachub.
O Ynys Vancouver,
Mali.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 2:38 am
gan Mali
Ynghyd a'r pethau arferol fuasech yn ffeindio mewn adeilad ar gyfer y teithwyr mewn maes awyr, mae'r 'F/O C Cottingham Terminal ' yn cynnwys arddangosfa o luniau a medalau yn perthyn i Cyril Cottingham.Yn ôl y papur newydd lleol, mae'r teulu wedi cadw ei lythyrau adref ac yn un ohonynt dywedodd,

"Was flying over North Wales yesterday afternoon. That country with its vales hills and streams is even more beautiful..."

Yn ei lythyr olaf adref, dywedodd,

" Often on the buses I had the laugh on the girls. They'd be jabbering in Welsh trying to figure out who I could be and just before I'd get out - I speak Welsh to someone - you should see their astonished looks when they see a Canadian speaking Welsh."

Chwe wythnos wedyn, 'roedd yn 'missing in action '.

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 4:41 pm
gan Geraint
Mali.............

erthygl yn y western mail

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2004 9:19 pm
gan Mali
Diolch am y linc Geraint . Yn gweld fod yr hanes wedi creu cryn ddiddordeb adref.
:)