gan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 19 Ebr 2004 11:13 am
Wedi bod yn ddiarth i'r maes ers misoedd maith rwan, achos bo fi di bod ar fy nheithiau yng Nghefnfor India. Ynys fach o'r enw Reunion i ddechra, ac wedyn ymlaen i Fadagasgar i weithio mewn cartra i blant amddifad. Dwi rioed di bod allan o Ewrop o'r blaen, ac mi oedd o'n brofiad gwirioneddol anhygoel, a dwi bron a marw isho mynd yn ol i Fadagasgar. Ma Cymru, a bywyd gorllewinol ar y cyfan, yn ymddangos mor llwyd ac ar frys o'i gymharu. Oes 'na rywun arall wedi bod ym Madagasgar?