Seiclo

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seiclo

Postiogan Geraint » Sul 25 Ebr 2004 4:22 pm

Newydd seiclo i Gastell Coch a nol o ganol Gaerdydd. Taith hyfryd ar hyd y Taf ar ddiwrnod bendigedig, ma na lwybr da yr holl ffordd.

Lle arall ma pobl yn mynd i seiclo?
Unrhyw awgrymiadau i deithiau da yn ardal Gaerdydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mali » Llun 26 Ebr 2004 5:04 am

Ai llwybr arbennig ar gyfer seiclo ydi hwn Geraint?
Finna'n hoff o seiclo hefyd , fel arfer o gwmpas y dref yma gan fod 'cycle routes ' arbennig ar y ffordd . Heb seiclo mwy na 20km [12m ] eto mewn bore/ prynhawn. Tua faint o ffordd ydi o Gaerdydd i Gastell Coch ac yn ôl ar dy feic ?
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 8:04 am

Siarad a mets dros y penwythnos, meddwl gneud Lon Las Cymru o Gaergybi i Gaerdydd yn niwedd mis Awst. Mae'n nhw wedi gwneud llwythi o lwybrau arbennig ar ei gyfar o a ti'n mynd oddi ar y ffordd fawr eitha tipyn o'r ffordd dwi'n meddwl.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Llun 26 Ebr 2004 9:06 am

Mali, ma na lwybr arbennig i feics ar hyd y Taf o Ferthyr i Gaerdydd.
Y pellter i Gastell Coch a nol yw tua 14 milltir.

Mae yna lwybrau da i seiclo ym mharcau y ddinas, ond mae darpariaeth i feics ar y ffyrdd yn wael iawn i gymharu efo rhai llefydd. Gei di darn o darmac wedi ei beintio'n goch ar hyd ocher y ffordd, tua hanner metr o led. Ma angen mwy.

Nwdls - ti di dechre trainio eto? Ma hwnna yn daith hir! Ond bydde fe'n daith hyfryd, da chi'n gweld, clywed ac arogli cymaint fwy ar beic na da chi yn car.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 26 Ebr 2004 9:43 am

Geraint a ddywedodd:Mae yna lwybrau da i seiclo ym mharcau y ddinas, ond mae darpariaeth i feics ar y ffyrdd yn wael iawn i gymharu efo rhai llefydd. Gei di darn o darmac wedi ei beintio'n goch ar hyd ocher y ffordd, tua hanner metr o led. Ma angen mwy.


Cytuno. Ces i'n synnu pan o'n i yn Amsterdam, achos roedd y lonydd i feiciau yr un lled a'r lonydd i geir. Erioed wedi gweld cynifer o feics yn fy myw! Fe weles i lawer mwy o feiciau, tramiau a threnau nag o geir. Y ffordd ymlaen, yn ddios.

Ond wedi gweud hynny, rhaid i fi ddechrau seiclo. :wps: Ond o leia' smo fi'n gyrru. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dwlwen » Llun 26 Ebr 2004 10:54 am

Just rhagofn bo unrhywun a diddordeb, ma llwybr seiclo [newydd-ish] Sir Gaerfyrddin/ Abertawe ar hyd yr hen rheilffordd yn daith odigog. Allwch chi fynd sia Gwyr/ Cydweli/ Cwm Gwendraeth/ Caerfyrddin - Duw a wyr lle arall, so'nghoesau cweit di covero'r holl beth 'to... Beth bynnag, mae wir werth rhoi tro arni rhywbryd achos mae'n hyfryd, wir i chi, och, ma awydd arw 'ds fi'i fod na nawr.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Seiclo

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 11:21 am

Geraint a ddywedodd:Newydd seiclo i Gastell Coch a nol o ganol Gaerdydd. Taith hyfryd ar hyd y Taf ar ddiwrnod bendigedig, ma na lwybr da yr holl ffordd.

Lle arall ma pobl yn mynd i seiclo?
Unrhyw awgrymiadau i deithiau da yn ardal Gaerdydd?

Yn ol be ddudodd fy ffrind, ti'n gallu mynd mewn i'r goedwig o Gastell Coch a seiclo draw at y Travellers Rest ar ben mynydd Caerffili, wedyn sgrialu lawr drwy'r coed ar drac beic mynydd go dda yn ol at Dongwynlais. Heb ei drio ond ma'n swnio fel laff.

Par: Lon Las...
heb gychwyn ymarfer eto, ond dwi'n recno fydd raid i fi neud rywfaint. Fyddan ni'n cymryd 9 diwrnod i neud o ac ella codi arian i achos da. Dwi di cael y geidlyfr yn barod felly raid i fi neud o rwan!

Ma'n rwbath dwi di bod isio neud ers tipyn fach rwan, a fuodd ffrind i fi o Lands End i John o Groats yn ddiweddar ag ysbrydoli fi fod o'n bosib. Gobeithio fydd fy lyng capasiti'n well rwan ar ol sdopio smocio 'fyd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhys » Llun 26 Ebr 2004 12:23 pm

Dwi gyda beic lawr yng Nghaerdydd ac yn ei defnyddio i seiclo mewn i ganol y ddinas yn yr haf, er dwi'n cymeryd de-tour trwy'r parcio achos bod gormod o ofn arnai i seclo ar y ffordd fawr :wps: . Mae'n bechod mewn dinas mar wastad nad oes mwy o lwybrau beicio. Mae'n reit hawdd seiclo lawr i'r bae hefyd. Pigais gopi o 'MudGuardian' yn Halfords, mae'n cael ei gynhyrchu gan Cardiff Cycling Campaign (dyw eu gwefan http://www.cardiffcyclingcampaign.org.uk ddim yn gweithio ar hyn o bryd). os chi'n ymaelodi da chi'n gallu cael gostyngiad mewn siopau beics a mae nhw'n trefnu teithiau beicio rheolaidd o amgylch Caerdydd a thu hwnt yn ystod yr haf.

Links eraill
Tudalen Beicio BBC De Ddwyrain

Mae llwybr beicio sy'n mynd ar hyd arfordir gogledd Cymru (o Rhyl i Lanfairfechan dwi'n meddwl. Dwi hef fod arno, ond chi'n gallu ei weld o'r tren ac wrth yrru ar hyd yr A55. Mae'n edrych yn un da. Gweler

Mae Beics Eryri yn dweud y gellir teithio Lôn Las Cymru mewn 6 diwrnd, so c'mon Rhodri
:)


Delwedd
Llun o lwybr beic yn yr iseldiroedd oddi ar The Bike Zone
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 1:08 pm

Wawi! Dolentastig!

Diolch Rhys. Ma'r daith beiciau Eryri na'n werth meddwl amdano. Dwi'n betrusgar braidd am gario'r sdwff yn hytrach na'r seiclo ei hun...Ella fod hi'n syniad llogi'r sdwff hefyd gan fod fy meic i'n gachu rwtsh o beth gafodd fy nhad o'r mart.

Sa rywun wedi gwneud hyn o'r blaen ag efo unrhyw tips? Pa fagiau? Be i fynd efo chi? Faint mor annodd ydi o go wir efo bagiau? Lle dwi am ffitio'r Oranjebooms a chadw nhw'n oer? ayyb

Ar nodyn arall - be ddigwyddodd i "Reclaim The Streets" ddigwyddodd ambell flynedd nol? Oes unrhyw son am gael mwy?

Newydd sylwi - mae 10% disgownt os oes mwy na 5 person a 5% os da chi'n iwsio'ch beic eich hun...sa ryuwn awydd dod? Taith feics Maes-e diwedd mis Awst!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 1:13 pm

Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron