gan mred » Mer 12 Mai 2004 12:09 am
Paid â phoeni'n ormodol am bwysau, ond i ti osgoi eitemau rhy swmpus. Mae bynjis a sach gwarchod/survival bag neu ddau yn ddefnyddiol i osod eitemau mawr megis pabell, mat cysgu a sach cysgu ar dop y rac. Mae'n werth ystyried mynd â sach ysgwydd mawr ar dy gefn - bydd bron yn wag y rhan fwyaf o'r amser ac yn ysgafn, a gellir ei gywasgu efo'r strapiau rhag iddo amharu ar symudiad dy freichiau. Ond weithiau mae'n ddefnyddiol os wyt wedi prynu bwyd/diodydd ar gyfer sawl diwrnod heb fod lle yn y paniers, ac isio mynd i wersyllu am rai dyddiau mewn lle anghysbell, efallai. Ateb arall fyddai ffitio paniers blaen ar y beic, ond mae breciau disg (a chost) yn rhwystr i mi yn hyn o beth.
Y ddau dro i mi seiclo i'r de, mi wnaeth amryw o broblemau godi efo'r beic a'r bagiau, a mae potensial i hyn ddifetha'r daith. Mae'r bachau sy'n dal y bagiau ar y rac yn hynod bwysig, a chryn dipyn o straen arnynt, a bu'n rhaid i mi ddefnyddio llinyn i'w clymu i'r rac o Lanidloes ymlaen, gan eu bod yn neidio, oedd yn andros o boen bob bore yr holl ffordd i Sbaen! Pe bawn â digonedd o bres byddwn yn dewis bagiau beic mwy safonol, Ortlieb neu rywbeth. Byddai rywbeth i ddal map ar y bariau llaw hefyd yn ddefnyddiol iawn.
Yna o ran y beic, mae'n well bwrw golwg arno'n ofalus cyn cychwyn - bydd straen mawr ar y beic hefyd. Mae cyflwr y gadwyn a'r dannedd/sbrocedi'n bwysig. Os ydynt wedi treulio, gwell eu newid cyn cychwyn, gan nad ydi hi'n hawdd canfod siop feiciau sy'n fodlon gwneud y gwaith yn fyr-rybudd. A mi ges i broblem fawr cael padiau ar gyfer fy mreciau disg - y rhan fwyaf o'r siopau ddim yn eu stocio, felly dos a rhai sbâr/ padiau sbâr - bydd yr holl ddisgyn efo pwysau mawr yn eu treulio. Mae isio offer trwsio beic, wrth reswm, yn cynnwys offer llai arferol fel datodwr cadwyn, dolenni cadwyn sbâr ayb.
Mi lwyddais i i osgoi talu am lefydd campio bob nos a gwersyllu ynghanol natur (wel, chwiws a mwy o chwiws - ond mi roedd rhwyd pen gynna i, defnyddiol iawn ar gyfer y nosweithiau, heb fod yn union yn eitem ffasiwn! Tria Cotswold Outdoors (ar-lein), os wyt yn ffansi un).
(i) Y noson gyntaf ym Mlaen Nanmor wrth yr afon,
(ii) yna yng Nghoed y Brenin (ger murddyn Hafoty Bach),
(iii) yna wedi diwrnod byr, ar gyrion Dolgellau (mewn lle nad ydw'i'n fodlon ei ddatgelu rhag i Sesiynwyr Mawr weld y neges),
(iv) yna, gan ddilyn yr amrywiad 'gorllewinol', Pumlumon, uwchlaw Rhiw Goch/dechrau Creigiau Bwlch Hyddgen,
(v) yna coed ar lan afon Glasffrwd dipyn uwchlaw Ystrad Fflur,
(vi) yna Comin Coch ryw bedair milltir i'r Gogledd o Lanfair ym Muallt (gweler map Lôn Las Cymru) - tir comin rhedynnog, ond mae modd canfod llefydd addas i wersylla,
(vii) yna ryw ddwy filltir cyn cyrraedd Bwlch yr Efengyl (y Mynydd Du), tir comin eto. Does fiw i rywun fynd dros y bwlch, gan bod y tir yn Nyffryn Euas (Capel y Ffin ayb.) i gyd wedi'i amgau,
(viii) yna lle digon sal ar fin ucheldir Coed Gwent, a chyrraedd Cas-Gwent y diwrnod wedyn.
Wrth gwrs mi fydd dy lwybr di'n amrywio o'r uchod. Ond fel y gweli, mae amcangyfrif o wyth niwrnod yn un digon rhesymol, o gofio mai diwrnod byr iawn oedd un o'r rhain, a bod fy nhaith i dipyn yn fwy cwmpasog na'r llwybr arferol beth bynnag.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.