Leusa a ddywedodd:ydio'n anghyfreithlon reidio beic dan ddylanwad alcohol?
Huw T a ddywedodd:Na. Gallwch chi gael points wedi'u tynnu off eich licence car. Hefyd yn y nos, os i chi'n redio heb oleuadau, allith yr heddlu roi on the spot fine i chi (apparently)
Norman a ddywedodd:Oes unrhywun yn gwybod y llwybr [ neu lon ] ora i feicio o Gasnewydd i Gaerdydd ? - Toes dim byd gan sustrans iw gynnig.
Meddwl mynd ar y B4239 ar hyd yr arfordir. Oes unrhywun yn nabod y lon ? - Faint o brysur di dwch ?
Geraint a ddywedodd:Newydd seiclo i Gastell Coch a nol o ganol Gaerdydd. Taith hyfryd ar hyd y Taf ar ddiwrnod bendigedig, ma na lwybr da yr holl ffordd.
Lle arall ma pobl yn mynd i seiclo?
Unrhyw awgrymiadau i deithiau da yn ardal Gaerdydd?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai