Oes rhywun wedi bod am dro yno, lle fysa chi'n argymell i mi fynd ?
Dwin mynd am bythefnos, ac eisho gweld rhai or dinasoedd yn ogystal a ardaloedd mwy gwledig.
Syniada?
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ma rhaid rhaid i chdi fynd i weld *y swper ola gan leonardo* os wti yn milan. nai byth anghofio'r awyrgylch yna!
Mali a ddywedodd:Helo Norman,
Mae Sorrento yn neis iawn i dreulio wythnos - lle da i ymlacio ac hefyd yn 'base' da i weld Pompei, yr Amalfi Coast, ac Ynys Capri.
Mali.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai