Tudalen 1 o 1

Yr Aifft - Cairo ta Luxor?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 5:58 pm
gan Macsen
Mae gen i ddewis rhwng y ddau. Pa un fysai orau tybed? :?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:43 pm
gan Aran
o'r ddau, al-luxur... mae cairo'n uffernol o le budr, 'wsti, er bod gen i dipyn o 'soft spot' iddi (shishas gyda nos, sudd hibiscus a ballu). ond taswn i'n cael mynd i'r aifft eto, fuaswn i'n gwneud 'ngorau i fod yn y gogledd - alesskandaria ydy'r lle i fod...

ond byddi di'n mwynhau, lle bynnag yr ei di. dysga bach o arabeg, hefyd, yn enwedig a'r byd fel y mae hi dyddiau hyn. nid nepell yn ôl i ddwsinau o dwristiaid cael eu lladd yn al-luxur - wel, pum mlynedd erbyn hyn, mae'n siwr, ond...

'laa, anaa mish ingleisî, anaa min balad cymru, anaa atkallam cymraeg, wa-anaa mish uHib lughat al-ingleisî'.

(sef tydw i ddim yn sais, dw i'n dod o gymru, dw i'n siarad cymraeg a dw i ddim yn licio siarad saesneg...:winc:) bydd hynna'n gwneud ffrindiau i chdi...

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 11:07 pm
gan Macsen
Mae' edrych fel yr ex-Thebes amdani ar y foment. Mi fyswn i'n hoffi mynd i Cairo, ond mae'n costio mil yn ecstra. Falle byddai'n pigo fyny ar y tren i gael cip ar y pyramids. Diolch am dy farn.

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2005 7:03 pm
gan Macsen
Yn diwedd mi gefais i fynd i Luxor, ac wedyn cymryd cruise lawr y Nile i weld Aswan hefyd. Glywais i bod Cairo yn lle reit ofnadwy, yn 'cattle farm' yn ol un dynes. :ofn:

Aran a ddywedodd:ond byddi di'n mwynhau, lle bynnag yr ei di. dysga bach o arabeg, hefyd, yn enwedig a'r byd fel y mae hi dyddiau hyn. nid nepell yn ôl i ddwsinau o dwristiaid cael eu lladd yn al-luxur - wel, pum mlynedd erbyn hyn, mae'n siwr, ond...


Roedd Luxor yn lle saff iawn, lot gwell nag Caernarfon ar nos Sadwrn. Mae ofn y llywodraeth i golli twristiaid wedi ei gyrru nhw i wario llwyth ar blismyn. Mi gefais i drafeilio mewn police convoy dwywaith drwy'r diffaethwch, heb orfod talu unrhyw baksheesh ychwanegol. :seiclops:

Ond roedd Luxor yn le ofnadwy i gael dy hasslo gan bobl. Roedd o leiaf un dyn yn dy hasslo di bob deg medr yn ddi-ffael, ac roedd rhaid i ti gyfri dy newid bob tro, a tippio pobl am wneud bob dim dan haul. Doedd o'm yn gweithio i'w mantais nhw chwaith, am mi fyswn i wedi prynu lot mwy os na fyswn i'n cael fy hasslo'n ddi-drugaredd ymhob shop.

Ond gwyliau gwych ar y cyfan. Mi gafon ni egyptologist i fynd o gwmpas gyda ni a wnaeth yr ysgrifen ar y holl demlau a beddi llawer mwy eglur nag fel arall.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2005 2:58 pm
gan Ti 'di beni?
B@st@d lwcus!

O'n i am fynd i'r Aifft ym Mis Awst, ond pynderfynom beidio a mynd oherwydd cododd y busnes camdrin carcharorion pan oeddem ni'n bwcio.

Efo pa gwmni es ti?

Roedden ni mynd i fwcio trip 10 diwrnod: hedfan i Luxor, cwch lawr y Nil (stopio ymhob teml ayyb ar y ffordd) yna hedfan i'r Mor Coch am 3 diwrnod, Cairo am 2 ddiwrnod ac adra. Hyn am llai na £1k yr un.

Dwi deffinitli am fynd yna o fewn y blynyddoedd nesaf.

Beni

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2005 3:23 pm
gan finch*
Ti 'di beni? a ddywedodd:Roedden ni mynd i fwcio trip 10 diwrnod...


sori odd jyst rhaid.

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2005 11:01 pm
gan Ti 'di beni?
Dwi'n gwbod.

Dwi di neud yr un peth toman o weithia mewn e-bost. :winc:

Beni