Swn i'n mynd i wirfoddoli yn codi waliau sych neu ofalu am nythod ar Ynys Dewi yn Sir Benfro am wythnos - Skomer dw i'n meddwl yn Saesneg - does n'unlle mor hardd os mae'n braf. Gei di tan wrth weithio'n eitha' caled! Ddim yn siwr pwy sy'n trefnu'r gwaith. Mae'r wardeiniaid yn bobol lyfli, a chei di fwyd a diod a chwmniaeth dda dw i'n siwr.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Na Skomer yw Sgomer. Errr [ymchwil, ymchwil, ymchwil]... Ramsey Island yn Saesneg. Wedi bod ar gwch o amgylch Ynys Dewi. Gwych. Mae'r lle'n llawn morloi, bilidowcars, gwylanod o bob math...