Fe es i Prague tua 4 blynnedd yn nol gyda ffrindiau brifysgol.
Aros yn ardal Praha 3 (purple house hotel) am £10 y noson ac neidio ar y tram i fewn i'r dre pob dydd.
Twr enfawr (union fel Twr BT) yn Praha 3, gyda lift yn mynd lan y canol a bwyty ac man tynnu lluniau ar y top. Golygfeydd dros Prague.
Bedd Franz Kafka y tu allan i'r ddinas.
Yn ystod yr haf mae'n bosib heirio 'pedalo' ar yr afon Vltava yn gannol y ddinas sydd yn hwyl.
Bwyd gwych (un lle mewn ogof o dan y ddinas). Triwch y cawl sydd yn dod mewn bowlen enfawr wedi ei wneud allan o fara.
Un pwynt pwsig, mae'n rhaid stampio'r tocyn tren/metro wrth i chi fynd ar y cerbyd (cofio'r hen heddlu sofietaidd yn gofyn am arian/galw'r heddlu).
Lot o hwyl a lle hyfryd. Ewch yn fuan.