wedi bod ym mhrag ryw pum mlynedd yn ol, a wir yr mae hi'n ddinas hardd. dod o hyd i ryw glwb tanddeuarol ac yfed pob matha' o wiroda digon doji. gwych.
aetho ni draw i'r ochr ddwyreiniol o'r wlad am drip undydd, a dwi'm yn cofio'n iawn be oedd enw'r ardal, ond mi oedd yn bendant yn werth mynd o'r brifddinas, i gael gweld y Siec go iawn fel pe tai. Mi oedd y tlodi a'r caledi i'w weld yn syth yno, ond mewn ffordd gweddol braf ac onest, allan o'r
pretence sydd i'w ffendio mewn dinasoedd. Oedd Prag, ar y pryd, yn dechra dod yn boblogaidd, ac yn ymddangos bron yn desbret tuag at dwristiaeth.
Ma'r bobl yn ddiddorol iawn yna, atgoffa fi o ferlinwyr, achos bo nhw mor sych a di-lol. Ond oni'n eitha licio hynny, dim
bull shit, a syth i'r pwynt.
Ma 'na ryw eglwys fuo ni ynddi oedd yn hyfryd ond, wrthgwrs, dwi ddim yn cofio'i henw hi. Ma Sgwar Wenseslas yn hardd ofnadwy. Ym... ella 'sa well i ti siarad hefo rywun sy'n cofio bach mwy na fi!