Tudalen 1 o 4

Y Weriniaeth Tsiec

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 9:22 pm
gan Geraint
Ma gennai awydd mawr fynd i'r Werinaieth Siec i deithio efo fy mhac yn yr haf. Rhywun wedi bod yna? Lle aetho chi, a be wnaethoch? Pa anturiaethau gwyllt gawsoch? Faint o gwrw yfoch? Prague yn lle amlwg i fynd, lle arall sydd werth mynd i? Awgrymiadau plis! diolch

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:15 pm
gan Ramirez
Newydd fod yn Prague am 3 dwrnod dros gwyliau pasg. Class, cwrw am 60c, ffags yn £1 y paced a bars yn gorad tan 4.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 8:42 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
wedi bod ym mhrag ryw pum mlynedd yn ol, a wir yr mae hi'n ddinas hardd. dod o hyd i ryw glwb tanddeuarol ac yfed pob matha' o wiroda digon doji. gwych.
aetho ni draw i'r ochr ddwyreiniol o'r wlad am drip undydd, a dwi'm yn cofio'n iawn be oedd enw'r ardal, ond mi oedd yn bendant yn werth mynd o'r brifddinas, i gael gweld y Siec go iawn fel pe tai. Mi oedd y tlodi a'r caledi i'w weld yn syth yno, ond mewn ffordd gweddol braf ac onest, allan o'r pretence sydd i'w ffendio mewn dinasoedd. Oedd Prag, ar y pryd, yn dechra dod yn boblogaidd, ac yn ymddangos bron yn desbret tuag at dwristiaeth.
Ma'r bobl yn ddiddorol iawn yna, atgoffa fi o ferlinwyr, achos bo nhw mor sych a di-lol. Ond oni'n eitha licio hynny, dim bull shit, a syth i'r pwynt.
Ma 'na ryw eglwys fuo ni ynddi oedd yn hyfryd ond, wrthgwrs, dwi ddim yn cofio'i henw hi. Ma Sgwar Wenseslas yn hardd ofnadwy. Ym... ella 'sa well i ti siarad hefo rywun sy'n cofio bach mwy na fi! :wps:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 10:38 am
gan Mihangel Macintosh
Es i ddim i Prague gan nad wyf victime de mode :winc:

Es i Burno, sydd ar y ffin gyda Slovakia. Tref hynod yn llond o gafi bars, gyda cwrw yn 40c y litr a pryd o fwyd tri cwrs o dan feifar. Merched pert, tywydd poeth, pobl yn smocio gwair mewn bars, trainers rhad, sipsiwn yn rhoi curse arnai, nofio mewn llynoedd a chysgu mewn shed.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 10:59 am
gan Llewelyn Richards
Fues i'n byw yn y Siec am sbel - llefydd amlwg i fynd yw Liberec, Cesky Krumlov, Brno a Bratislava dros y ffin os ti am sesh mewn dinas lwyd Gomiwnyddol spy film go iawn.
Hefyd werth mynd i gyrion Prague i ardaloedd fel Zitkov a Podoli am bach o brofiad gwahanol.
Mynyddoedd yn hardd iawn i'r gogledd, a'r bobl yn groesawgar a di-lol. Ond dysga rywfaint o'r iaith cyn mynd, mae'n cael ei werthfawrogi.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 11:54 am
gan eusebio
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Es i ddim i Prague gan nad wyf victime de mode :winc:


Cytuno'n llwyr ;)

Fues i ym Mhrague ym 1989, ac ar y pryd roedd yn ddinas hyfryd - dim Yanks efo backpacks yn meddwl eu bod yn Bohemian ;)

Os ti am weld dinas tebyg i'r hyn oedd Prague adeg hynny, dos i Kiev cyn i'r Yanks symud i fewn - gwych o ddinas.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 11:56 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
hei, peidiwch a bod yn snobs! ma prag ei hun dal yn ddinas hyfryd, waeth pwy sy yna.

ac eniwe, oni yna cyn iddo fo dynd yn boblogaidd! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 11:58 am
gan eusebio
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:hei, peidiwch a bod yn snobs! ma prag ei hun dal yn ddinas hyfryd, waeth pwy sy yna.

ac eniwe, oni yna cyn iddo fo dynd yn boblogaidd! :winc:


:lol:

Dwi'n cytuno ei fod yn ddinas hardd, ond cyn bo hir (ac yn gynt yn hytrach na'n hwyrach) bydd fel unrhyw ddinas mawr yn Ewrop.

:(

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 2:55 pm
gan Geraint
Gwych gwych gwych. Diolch. Dwi sicr isho mynd yn gorffenaf, fel warm-up i'r steddfod :winc: Bendant isho mynd i Prague, a tu hwnt, Brno yn swnio'n dda. Os oes rhywun ffansi trip yno, gadewch i i wybod! :D

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:00 pm
gan benni hyll
Be am fynd yn mehefin?

Job seeker ma yn mynd i fod yn twidlo'i thyms fel arall :winc: