Mae Carolvy Vary (i'r gogledd orllewin o Prague) a Kuta Hora (de ddwyrain o Prague) hefyd yn lefydd digon dymunol sy'n osgoi'r twristiaid.
Mae twristiaeth wedi chwalu Prague eisioes yn fy marn i gyda bob yn ail siop bellach yn gwerthu hufen ia neu hetiau a crysau T ar gyfer y "Brits" sydd yno ar y cwrw . Trist oedd gweld fod Mc Donalds a Tesco wedi sefydlu yno, a hysbysebion neon llachar yn llygru aml i adeilad hyfryd.
Mae cwrw, bwyd a gwestai llawer iawn rhatach y tu allan i Prague. Yn Carolvy Vary ges i wely a brecwast am 4 punt y noson a roedd cwrw yn llifo am 30c y peint!
Mae mynyddoedd y Tatry (codi at 2,500m o uchder) sydd ar y ffin rhwng gwlad Pwyl a Slovakia hefyd gwerth eu gweld. Mae costau Slovakia hefyd yn is na'r Werinaieth Siec (cwrw 25c y peint)
Gair o gyngor am Prague - Bydd yn ofalus pa glybiau wyt yn eu mynychu ar ol iddi dywyllu. Nid dawnsio disgo sydd yn digwydd yn y rhanfwyaf o "Night Clubs" yno!
Hefyd, disgwylia gorfod paffio merched i ffwrdd ar y strydoedd wedi iddi dywylly - maen't yn heidio ar dy ol di gan gynnig pob math o wasanaethau amheus. Cadwa dy law ar dy waled a paid a stopio i siarad!