Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:12 pm
gan Geraint
ella. Mae fy mghynllun yn agored i drafodaeth pellach (gwaith-speak)

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:18 pm
gan benni hyll
siaradwn nes ymlaen, tybiaf.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:19 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
benni, wti'n job sicyr hefyd! iei! dwi ddim fy hun ta. hei, pryd ma'r pres yn dod drwadd? dwi'n sgint a ma'i bron yn benwsos!

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:30 pm
gan benni hyll
job seeker mewn pythefnos. What a bum. :crio:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 6:04 pm
gan Cwlcymro
Os wti am fynd i Prague gwna be nesi, mynd yn Mis Ionawr. Dim Americanwyr, dim lager louts Prydeinig (heblaw ni) a gora i gyd......EIRA!!!!

Mai dal yn eithriadol o rad yna (gora gatho ni odd peint 30c a pryd tri cwrs posh am £5) a ma rhan fwya o faria ar agor tan tua 4/5 a rhei yn 24 awr (wir yr!!!)

Gna'n shwr bo chdi'n cadw un nos yn glir o alcohol er mwyn gallu codi yn gynnar a cal diwrnod cyfa yn cerddad y ddinas. Dos i'r castall/palas (ma nhw'n galw fo'n gastall ond palas ydio go iawn!), dos i ben y bryn efo'r twr eiffl ffec (cerddad dim tren!) a, wrth gwrs, dos ar bont Mission Impossible!

Tria ffendio rwla i aros rhyw 10 munud o gerddad tu allan i'r canol. Ma'r canol yn afiach o touristi, ac yn ddrud iawn i gymharu efo gweddill y ddinas.

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 2:50 pm
gan brenin alltud
Cwlcymro a ddywedodd: Dos i'r castall/palas (ma nhw'n galw fo'n gastall ond palas ydio go iawn!), dos i ben y bryn efo'r twr eiffl ffec (cerddad dim tren!)


Ai, y twr eiffel na'n nyts. Llecynne glas godidog oddi tano 'fyd yn tremio dros y ddinas.

Y profiad gore ges i oedd bod mewn pentre' nid nepell o Cesky Budjovice (dw i'n meddwl - lawr yn lle mae cwrw Budvar yn dod - dw i ddim yn cofio chwaith) a gweld gig mewn neuadd bentre' oedd union r'un peth â gigs Cymraeg - gitar band gwichlyd a keyboards nyts a merch cwl yn canu - a phawb yn racs ar slivovice a'r stwff twyllach afiach 'na. Feddwes i gyda llond bwr' o Siecs tan 4 y bore a nhw heb gair o Saesneg a finne heb air o'r iaith Siec :?

O'n nhw'i gyd yn dweud bod fi'n gallu ynganu eu cytseiniaid arbennig nhw (y gwahanol 'cz') yn well na Saeson :P
Ges i eitha' blas ar yr iaith mewn 4 diwrnod ond cofio diawl o ddim nawr, cofiwch.

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 9:02 pm
gan Siffrwd Helyg
Es i Brno mis Gorffennaf dwetha - gathon ni amser hollol nyts. Nes i a'm mrawd wario bron i £200 ar alcohol o fewn pedwar diwrnod...ac o feddwl bod cwrw tua 60c - mae'n dweud y cwbl am ein hamser ni yno... :rolio:

Naethon ni fynd i Prague am ddiwrnod ar y ffordd adre...ond odd y ffaith bod ni heb gael mwy na pedwar awr o gwsg ers 3 diwrnod yn golygu bod ni methu canolbwyntio ar wir harddwch a gogoniant y lle...llawn tourists hefo bym-bags tho...

oo ac mae'r ceir yn hollol nyts (wel, y bobl sy'n eu dreifio nhw...). os ti'n croesi hewl Geraint (bydd rhaid i ti rhywbryd yno dwi'n siwr), anghofia am reolau'r ffordd fawr, dydyn nhw ddim yn bod ym Mhrag - jyst RHED AM DY FYWYD!! o, a joia :D

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 12:56 pm
gan Llyfwr Pwdin Blew
Mae Carolvy Vary (i'r gogledd orllewin o Prague) a Kuta Hora (de ddwyrain o Prague) hefyd yn lefydd digon dymunol sy'n osgoi'r twristiaid.

Mae twristiaeth wedi chwalu Prague eisioes yn fy marn i gyda bob yn ail siop bellach yn gwerthu hufen ia neu hetiau a crysau T ar gyfer y "Brits" sydd yno ar y cwrw . Trist oedd gweld fod Mc Donalds a Tesco wedi sefydlu yno, a hysbysebion neon llachar yn llygru aml i adeilad hyfryd.

Mae cwrw, bwyd a gwestai llawer iawn rhatach y tu allan i Prague. Yn Carolvy Vary ges i wely a brecwast am 4 punt y noson a roedd cwrw yn llifo am 30c y peint!

Mae mynyddoedd y Tatry (codi at 2,500m o uchder) sydd ar y ffin rhwng gwlad Pwyl a Slovakia hefyd gwerth eu gweld. Mae costau Slovakia hefyd yn is na'r Werinaieth Siec (cwrw 25c y peint) :D

Gair o gyngor am Prague - Bydd yn ofalus pa glybiau wyt yn eu mynychu ar ol iddi dywyllu. Nid dawnsio disgo sydd yn digwydd yn y rhanfwyaf o "Night Clubs" yno!
Hefyd, disgwylia gorfod paffio merched i ffwrdd ar y strydoedd wedi iddi dywylly - maen't yn heidio ar dy ol di gan gynnig pob math o wasanaethau amheus. Cadwa dy law ar dy waled a paid a stopio i siarad!

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 1:22 pm
gan Cwlcymro
Bydd yn ofalus pa glybiau wyt yn eu mynychu ar ol iddi dywyllu. Nid dawnsio disgo sydd yn digwydd yn y rhanfwyaf o "Night Clubs" yno!


Natha ni'm boddro mynd i unrhyw night club. Natha ni ffendio dau far wrth y hostel. Un yn Cocktail bar posh ond hollol wag (gan fod hi'n fis ionawr ni oedd yr unig alcis o dramor yna) oedd ar agor tan 4 (ag efo uffar o waitress del!) ag yr un arall ar agor 24 awr.
Felly o gwmpas pybs tan rhyw 2am, i'rt coctel bar tan 4am wedyn i'r bar 24 awr tan fod pawb wedi colapsio, wedyn llusgo'n gilydd y 10 metr i'r hostel!

Trist oedd gweld fod Mc Donalds a Tesco wedi sefydlu yno, a hysbysebion neon llachar yn llygru aml i adeilad hyfryd.

Stryd fwyaf enwog Prague, y stryd ble ddigwyddodd y Velvet Revolution, rwan yn gartra i ddau McDonalds a pedwar casino!!
(Ond os da chi isho alcohol GWIR rad cer i Tesco Prague, meddylia am hyn; ma alcohol yn uffernol o rad yn Prague, ma Tesco efo alcohol Tesco Value, cyfuna'r ddau a mi gei di botal o fodca am 60 ceiniog!!! :lol: :lol: )

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 2:36 pm
gan Wil wal waliog
Es i Prague haf dwetha'. Lan i wlad Pwyl es i wedyn ni. Krakow yn ddinas wych a hardd, heb ei bomio hanner gymaint a Warsaw yn y rhyfel. Clywed bron dim Saesneg o gwbl yng Ngwlad Pwyl. Biwt. Ond Prague oedd y lle am nosweithu hwyr, smygu ac yfed ayb.