Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 2:40 pm
gan Wil wal waliog
Un peth nath i fi chwerthin yn Prague oedd fod yr amgueddfa Gomiwnyddol rhwng y Casino a'r McDonalds :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 10:58 am
gan Cwlcymro
Mi esi i fano hefyd

" The Communist Museum, between the McDonalds and the Casino, viva la revolution!"

PostioPostiwyd: Gwe 07 Mai 2004 2:04 pm
gan Ramirez
Aye, chwerthishi wrth weld hwnna hefyd!

PostioPostiwyd: Mer 12 Mai 2004 4:55 pm
gan Mandi Fach
Cytuno..werth mynd i'r arddangosfa/amgueddfa yma i weld sut oedd petha cyn y newid mawr...difaru na es i Prague ynghynt...

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2004 11:03 am
gan wiwer
Fe es i Prague tua 4 blynnedd yn nol gyda ffrindiau brifysgol.
Aros yn ardal Praha 3 (purple house hotel) am £10 y noson ac neidio ar y tram i fewn i'r dre pob dydd.

Twr enfawr (union fel Twr BT) yn Praha 3, gyda lift yn mynd lan y canol a bwyty ac man tynnu lluniau ar y top. Golygfeydd dros Prague.

Bedd Franz Kafka y tu allan i'r ddinas.

Yn ystod yr haf mae'n bosib heirio 'pedalo' ar yr afon Vltava yn gannol y ddinas sydd yn hwyl.

Bwyd gwych (un lle mewn ogof o dan y ddinas). Triwch y cawl sydd yn dod mewn bowlen enfawr wedi ei wneud allan o fara.

Un pwynt pwsig, mae'n rhaid stampio'r tocyn tren/metro wrth i chi fynd ar y cerbyd (cofio'r hen heddlu sofietaidd yn gofyn am arian/galw'r heddlu).

Lot o hwyl a lle hyfryd. Ewch yn fuan. :saeth:

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2004 12:34 pm
gan Cwlcymro
Un pwynt pwsig, mae'n rhaid stampio'r tocyn tren/metro wrth i chi fynd ar y cerbyd (cofio'r hen heddlu sofietaidd yn gofyn am arian/galw'r heddlu).


Pwynt HOLLBWYSIG. Dim ond idiot fysa ddim yn stampio ei docyn metro

Ia, fi nath iawn! Basdad yn rhoi ffein i fi!

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2004 2:02 pm
gan Wil wal waliog
Pwynt arall ynglyn a'r heddlu; newch yn siwr bod chi'n croesi'r heol ble ma'r zebra crossing, achos os chi ddim a ma'r heddlu yn eich gweld chi, ac yn gwybod bod chi'n dwristiaid na nhw ffeinio chi! Profiad amhleserus ond odd y ffein ond yn rhyw £3!

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2004 4:48 pm
gan krustysnaks
Fues i yno ddwywaith yn 2001 - aros mewn gwesty average y tro cyntaf, ond yn yr Hilton yr ail waith 8) rodd na complimentary hwrod yna a mae o fel ciwb anferth. ffantastic.

Cer i'r llefydd amlwg ma pawb wedi son amdanynt - pont mission impossible, castell, jewish cemetry, ayyb.

Un lle fues i nad sydd mewn unrhyw lyfr teithio ydy bryn Zizkov / Vitkov. Ar y top mae'r cerflun anferthol yma o ddyn ar gefn ceffyl - y cerflun mwyaf o'r fath yn y byd. Yno hefyd ma na mauselium comiwynddol nath rhyw ddyn adeiladu i'w hun. Nathon nhw'i biclo fo, ond ath rhywbeth yn rong, felly rodd rhaid iddyn nhw ailffurfio'i gorff o allan o blastic. neu rhywbeth.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 12:47 pm
gan Gowpi
Odd cynifer Americanwyr yn Praha wedi fy synu, ond dinas mae'n rhaid ymweld a hi, yn bendant. :) Bues i yn Brno hefyd a'r Tsieciaid yn well impressed ar ynganiad ni'r Cymry o'r lle! Cer i Kutna Hora ble ma' 'na eglwys yn llawn mummies a phenglogau yn creu chandeliers!! Bach fel Texas Chainsaw thingy! Fues i hefyd yn ymweld a chastell Devin odd mewn ardal tawel, pert ofnadw... neu ife yn Slofacia ma' hwnnw...?

Lle sydd bendant yn werth taro ymweliad gyda yw Croatia. Dim cymaint Zagreb, ond yn bendant Split a Dubrovnik... ond wedyn, testu arall yw hyn... :winc:

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 11:29 am
gan Geraint
Beth am aros yn Hotel Abri? :lol: