Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 4:48 pm
gan dihiryn hawddgar
Ga i ofyn y bobl sy wedi ymateb yn barod - ydy hi'n weddol hawdd i dal minibws o'r maes awyren i westai yng nghanol y ddinas. Ydyn nhw'n mynd yn aml? Dw i'n mynd ddydd Iau ac mae cwmni sy wedi trefnu'r gwesty wedi cynnig trefnu transfer prefiat i'n gwesty sy'n costio mwy na'r bysiau. Ydy hi'n werth wneud?

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2004 3:19 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
mae'n debyg 'i bod hi'n hawdd iawn cael bys o'r maes awyr i'r ddinas, sy'n rhatach 'swn i'n feddwl na bys y cwmni. rhaid prynu tocyn gynta' yn y terminal, cyn cerdded draw i'r arosfan. digon rhad a hwylus. mae'n cymryd tua 1/2 awr i gyrraedd un o'r stops tram canolog.

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2004 5:39 pm
gan Llyfwr Pwdin Blew
Mae dal bws i'r Ddinas yn rhad iawn o gymharu a taxi, ac yn mynd yn rheolaidd.
Cymer dacsi i'r gwesty o ganol y ddinas, ar ol taith hanner awr ar y bws.

*Gofyn am bris taxi ar ddechrau pob siwrne - mae hyn yn atal nhw rhag gyrru y ffordd bellaf, neu dy rwygo di i ffwrdd. Mae dadlau drost bris ar ddiwedd y siwne yn amhosib, yn bennaf oherwydd y problem iaith.

PostioPostiwyd: Sul 26 Rhag 2004 7:21 pm
gan Cwlcymro
Cytuno, dalia'r bws, mae o yn rhad ac yn hawdd.
Ma nhw'n mynd ddigon aml, mi lanio ni am 9pm ganol Ionawr a mi oddna fws yna mewn 10 munud. COFIA BRYNNU TOCYN O'R TERMINAL, fedri di ddim ar y bws.

PostioPostiwyd: Sul 30 Ion 2005 5:23 am
gan Mihangel Macintosh
Os chi'n Prague a ffansi yfed cwrw drwy'r nos ma werth mynd i Pizza Roma, nepell o Bont Siarl - ma'r bar ar agor am 24 awr bob dydd! Prisau rhesymol a di'r pitsas ddim yn ffol chwaith.