(Gyda llaw, beth yw 'Road Trip' yn gymraeg?!hmmm tabeth)
Dwi a cwpwl o ffrindie am neud rhyw fath o 'road trip' o gwmpas Cymru ha' yma, gan fod cymaint o lefydd dyn ni heb fod iddo yn ein gwlad bach ni ein hunan. Ni'n meddwl dechre yn y Dwyrain, gweithio'n ffordd fyny, wedyn draw i Orllewin Gogledd Cymru ac Ynys Môn a nol lawr i Gaerfyrddin (gan stopio bant yn sesiwn fawr ar y ffordd nol )
Felly, lle dylwn ni fynd? Llefydd diddorol/llefydd i osgoi/pybs da/llefydd rhad i aros...postiwch nhw yma! Diolch!