Tudalen 1 o 3

'Road Trip' o gwmpas Cymru

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 9:13 pm
gan Siffrwd Helyg
(Gyda llaw, beth yw 'Road Trip' yn gymraeg?!hmmm tabeth)

Dwi a cwpwl o ffrindie am neud rhyw fath o 'road trip' o gwmpas Cymru ha' yma, gan fod cymaint o lefydd dyn ni heb fod iddo yn ein gwlad bach ni ein hunan. Ni'n meddwl dechre yn y Dwyrain, gweithio'n ffordd fyny, wedyn draw i Orllewin Gogledd Cymru ac Ynys Môn a nol lawr i Gaerfyrddin (gan stopio bant yn sesiwn fawr ar y ffordd nol :winc: )

Felly, lle dylwn ni fynd? Llefydd diddorol/llefydd i osgoi/pybs da/llefydd rhad i aros...postiwch nhw yma! Diolch! :D

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 10:35 pm
gan eusebio
Llefydd i'w gweld ar Ynys Môn:
Delwedd
Ynys Lawd (neu South Stack) ger Caergybi,

Llanddwyn ac Eglwys Santes Dwynwen,
Melin Llynnon ger Llanddeusant
Platfform Steshion Llanfairpwllgwyngyll...gogogoch ( ;) )

Pubs da ar Ynys Môn:
Bull, Llangefni am fwyd - perchnogion newydd ac mae'n blydi lyfli!
Ship Inn, Traeth Coch - cwrw grêt a reit ar lan y môr.
Inn at the Bay, Trearddur Bay Hotel, Bae Trearddur - bwyd bar lyfli (yn enwedig i veggies) a reit dros lôn i lan y môr

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 10:38 pm
gan eusebio

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 10:44 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Pa mor bell i'r de ddwyrain? Achos os wyt ti reit yn y de ddwyrain, paid anghofio Melin Gelligroes!

Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 12:58 pm
gan Jeni Wine
Gogledd Orllewin Cymru

Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth
Pentref Eidaleg clws ofnadwy a phan ma'r llanw allan gei di gerad ar hyd-ddo fo am filltiroedd. Robin Llywelyn di rheolwr Portmeirion felly dwi'n siwr fyddi di wrth dy fodd yna Siffrwd!

Tafarn y Ty Coch yn Mhorthdinllaen
Parcia dy gar/dos off y byd yn Morfa Nefyn wedyn cerdda ar hyd y traeth i'r chwith nes ti'n cyrradd traeth Porthdinllaen. Rom bach gormod o Saeson ond ma'r lle fatha rhyw nefoedd bach. Slochian yn y pyb a nofio'n y mor drw dydd.

Cwm Pennant wrth ymyl Garndolbenmaen
'O Arglwydd, paham y gwnaethost Gwm Pennant mor hardd/A bywyd hen fugail mor fyr?'
O'n i'n arfar mynd i fama efo mam a'm chwaer bob ha. Lle bach prydferth ofnadwy ac afon yn canu ar ei hyd. Os ti'n dreifio dipyn mlaen yna ti'n cyrradd darn o'r afon sy ddigon dwfn i neidio i mewn iddo. Dos a phicnic a siwt nofio efo chdi.

Mi sgwenna i fwy nes mlaen, ma'r bos yn edrach dros f'ysgwydd!

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 1:18 pm
gan eusebio

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 1:22 pm
gan Rhys
eusebio a ddywedodd:Llefydd i'w gweld ar Ynys Môn:
Llanddwyn ac Eglwys Santes Dwynwen,



Fues i'n aros yn un o'r Fythynod y Peilotiaid ar Ynys Llanddwyn fel Warden Gwrifoddol i'r Cyngor Cefn Gwlad ar ôl graddio. Lle amazing, tipyn o waith cerdded o'r maes parcio ond werth o.

Rhestr o westai sy'n cael eu rhedeg gan Gymry Cymraeg yng Ngwynedd a Chonwy ar http://www.gwyliaucymraeg.com

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 7:01 pm
gan Rala Rwdins
Diolch am yr ymateb! Fi yw'r un fydd yn rhannu'r gyrru gyda Siffrwd (gobeithio) so ma'r son am yr holl lefydd i aros yn help :winc: . Fi'n credu fues i i South Stack pan o'n i'n fach...ond o'dd gormod o ofan arnai i groesi'r bont fach na ar waelod yr holl risiau! Bydd rhaid i Siff dynnu fi lawr na fi'n credu! Golygfa lush ar ddiwrnod braf!

Ife Traeth Coch yw Red Wharf Bay?

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 7:09 pm
gan eusebio
Rala Rwdins a ddywedodd:Ife Traeth Coch yw Red Wharf Bay?


Ia - a drws nesaf i'r Ship Inn mae bwyty'r Old Boathouse sydd yn lysh!!

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 7:09 pm
gan ffrwchneddwraig
Yn fy marn i, y daith hyfrytaf yng Nghymru, yw y daith rhwng Aberystwyth a Dolgellau.