Gair o'r Gaiman

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gair o'r Gaiman

Postiogan Nick Urse » Iau 20 Mai 2004 2:20 am

Yndi, myn macrall i - ma'r Nicar wedi sbringio'i lastig am y Wladfa bell. Dwi'n byw yn nhre fach y Gaiman ym Mhatagonia bellach ac yn dechra pesgi fatha hwch. Llond y lle o dai te Cymraeg sy'n gwerthu te go iawn fatha odd ych Nain yn neud ersdalwm: teisenna hufan tynnu dwr o ddannadd; bara menyn a jam cartra a digonadd o baneidia i foddi'r Iwerydd. (Dwi'n boicotio'r ty te ath Daiana iddo fo yn 199? gyda llaw. Yn ol y son, ma gwaddodion 'i phanad hi yno o hyd mewn pot jam ar silff. Ych-a-v!)Wedi gweld petha bisa^r fatha boi yn neud sioe strupio am yn ol (hynny yw, dechra yn 'i dro^ns a gwisgo amdano cyn neud rhyw fath o dango efo'i belfis)! Dechra arfar efo'r syniad o fynd allan am un o gloch bora tan iddi wawrio, ond blydi hel, does'na'm dafn o seidar yma. Neith rhywun wasgu peipan dan ddaear o'r Blac Boi i'r Davarn Las PLIIIIIS! Os dach chi ar ych trafals yn yr Ariannin 'rha 'ma, e-lythyrwch fi. Rhywun yn dod i gem rygbi Cymru ym Muenos Aires ar y 19eg o Fehefin? Chau bobol. :winc:
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm

Postiogan Carlos Tevez » Iau 20 Mai 2004 4:26 am

Helo dwi ar hyn o bryd yn Buenos Aires ond maen ffwcin oer ma...felly fflio i Rio dydd sadwrn am yr haul..am fis.. wedyn dod nol yma ar gyfer gem Cymru ar y 19fed..mae gynnai diced yn barod...contacts .. hwyl Carlos. Cofion at y bobl yn y DL:!
"....the name is unimportant...is it ghostbusters 2??!..."
Carlos Tevez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 146
Ymunwyd: Sad 07 Chw 2004 10:58 pm
Lleoliad: Llangwyfan

Postiogan Aran » Iau 20 Mai 2004 7:31 am

sut mae'r Sbaeneg yn mynd felly?!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Chwadan » Iau 20 Mai 2004 8:04 am

Nick Urse a ddywedodd:Llond y lle o dai te Cymraeg sy'n gwerthu te go iawn fatha odd ych Nain yn neud ersdalwm: teisenna hufan tynnu dwr o ddannadd; bara menyn a jam cartra a digonadd o baneidia i foddi'r Iwerydd.

Mmmm, ti di trio'r hufen ia yn y siop goffi sydd (tua) gyferbyn a'r garej ar y stryd fawr? Son am besgi, doedd cal hwnna i "frecwast" ar ol bod allan dan godiad haul ddim yn syniad rhy dda :D

Nick Urse a ddywedodd:does'na'm dafn o seidar yma

Ti'm yn mynd i Batagonia i yfed seidar! Quiiiiilmes! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Leusa » Llun 24 Mai 2004 11:04 pm

o mai god, ma hyna gymaint newydd neud fi gael hiraeth a chrio am hir hir!!!
Pwy sy'n gweithio yn y Davarn Las bellach?
Os welidi Sybil neu Luned Gonzales, cofia ni atyn nhw! :crio:

oooo chwads rhaid ni fynd yn ol
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron