Tudalen 1 o 3

Gwlad y Basg

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 9:40 pm
gan Geraint
Newydd ddarllen llyfr am y asgwyr, The Basque History of the World gan Mark Kurlansky, llyfr gwych sydd yn rhoi blas o hanes a ddiwylliant y bobl, a sydd wedi codi diddordeb mawr yn y lle ynddof.

Pwy sydd wedi bod yna, sut amser gaethoch a pha argraff gadodd y lle arnoch?

Dechrau newid fy meddwl am fynd i'r Weriniaeth Siec ac yn meddwl am Sbaen yn lle nawr! Peth arall fyddai'n wych byddai fod yn y Pyrenees yn ystod Tour de France yn gwylio'r Basgwyr yn cefnogi ei tim, Euskatel-Euskadi.

A cyn i rhywun arall ddewud e, gai ddweud o gynta!:

"Wastad yn mynd i Wlad y Basg, Byth yn mynd i Sbaen" :winc:

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 11:15 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hei, Ger, ti'n gwbod be ma nhw'n weud, wastad yn mynd i Wlad y Basg... o, shit, ti di meddwl am na de... :?

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 7:15 am
gan Aran
spwci... dw i newydd ddarllen y llyfr 'na hefyd, ac yn ei gael o'n wych, yn ddiddorol dros ben... cymaint o bethe nad o'n i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw o gwbl, a difyr iawn i'w gweld sut mae gwlad bach yn cael ei gwneud yn anweledig bron ar ran beth mae gweddill Ewrop yn clywed amdani...

mae 'na ddathlu Glyndŵr yn mynd i fod ym Machynlleth penwythnos y 18fed o Fehefin - dw i 'di awgrymu i'r trefnwyr bod nhw'n ystyried gofyn am doriad o dderwen Gernika a'i blannu ger y Senedd-dy...

a finnau hefyd yn ysu cael mynd yno, ond bydd rhaid dysgu digon o'r iaith i fod yn gwrtais cyn deithio, tybiaf i...

PostioPostiwyd: Maw 01 Meh 2004 9:38 pm
gan Geraint
Rhaid bod rhywun wedi bod yna!

Oes rhywun wedi gweld y ffilm The Basque Ball? Ffilm ffeithiol am wleidyddiaeth a cenedlaetholdeb y Basgwyr. Dwi heb weld hi, ond mae'r DVD yn cael ei rhyddhau mis Medi.

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 9:48 am
gan mred
Mi wnes i bostio darn am daith feicio ar hyd arfordir Gwlad y Basg, a rhai o fy argraffiadau, mewn edefyn blaenorol, 'Fyddech chi'n mynd yn ôl?' Ella y medr rywun roi'r cyswllt.

Es o Deba i Bilbo (Bilbao), ac mi oedd cenedlaetholgarwch y Basgiaid yn amlwg iawn - baneri ar lawer o'r fflatiau yn y pentrefi pysgota, yn mynnu dod â charcharorion Basgaidd yn ôl o Ffraic i Wlad y Basg, sloganau a murluniau ym mhobman. Roedd arwyddion mewn rhai llefydd yn Euskara yn unig. Sylwais yn Gernika (Guernica) bod yr adeiladau bron i gyd yn rhai modern - bomiwyd y lle'n ddarnau gan luoedd Franco yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae'r arfordir yn werth ei weld, traethau da, ond efallai bod y rhwydwaith ffyrdd yn llai datblygedig nag yma, fel bod rhaid dilyn ffyrdd prysur weithiau os wyt ar feic. Ond mi oedd y darn rhwng Deba a Bilbo (Bilbao) yn ddigon tawel. Argraff bod llawer o'r Basgiaid yn gyndyn i siarad yr iaith, tebyg i'r hyn a geir yng Nghymru. Wrth gwrs, dim ond mewn rhan fechan o'r wlad y bues i.

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 4:35 pm
gan Jeni Wine
Eshi i Bilbo mis Mai dwytha am benwsos hir. Lle anhygoel rili. Yn y blynyddoedd dwytha ma'r ddinas wedi rili di dechra codi'i hun ar ei thraed. Ma'r Guggenheim yn ANHYGOEL.

Ma'r adeilad yn debyg i long hwylia fawr arian yn symud ar hyd yr afon

Delwedd

ac o'i flaen o ma na gerflun anferthol o gi gan yr artist Jeff Koons (addas iawn!) sy' wedi ei wneud yn gyfangwbl allan o floda (sy'n newid yn naturiol yn ol y tymor).

Delwedd

Ma hi'n ddinas llawn cymeriad a ma bod yna fel bod yn wenynan ferich yn meddwi'n ara deg yn yr haul. A ma'r tapas yna yn fendigedig. Dos i'r llefydd bach mwya dinji yr olwg - yn fanno ma'r tapas gora (twmpethi anferth o fadarch efo cachlwyth o fadarch :P oedd y ffefryn - futish i fawr o'm byd arall). Gwerth pob chweil, wir i chi.

Mi ath mam a fi ar drip diwrnod i Santander ar dren, oedd yn lle bach llawn traetha bach delfrydol ond faswn i'm isio treulio mwy na diwrnod yna rili. Traeth di traeth ar ol dipyn.

Dwi'n difaru mod i heb fynd i Gernika, a gneud mwy, yn gyffredinol (yn hytrach na threulio'r rhan fwya o'r amsar yn meddwi a sgwrsio a byta a dadla a drewi o garllag) ond hei ho, fela mai weithia.


llyfr yn swnio'n wych gyda llaw. mae o'n ymuno fy rhestr aros i.

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 4:39 pm
gan Wil wal waliog
Ma' EasyJet yn neud ffleits digon rhad i Bilbo o Fryste. Ond sain siwr am rhai o Gaerdydd.

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 5:51 pm
gan Chwadan
Wwww ma fanna'n edrych yn cwl, dio'n le drud? Ma'r mistyr isho ymarfer ei Sbaeneg ond dwi'm isho mynd i rwla o'r enw Costa del Wbath :?

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 5:53 pm
gan Jeni Wine
Jeni Wine a ddywedodd:A ma'r tapas yna yn fendigedig. Dos i'r llefydd bach mwya dinji yr olwg - yn fanno ma'r tapas gora (twmpethi anferth o fadarch efo cachlwyth o fadarch :P oedd y ffefryn - futish i fawr o'm byd arall). Gwerth pob chweil, wir i chi.


:ofn: :rolio:

cachlwyth o arllag onin trio'i ddeud

PostioPostiwyd: Mer 02 Meh 2004 6:17 pm
gan Wil wal waliog
Chwadan a ddywedodd:Wwww ma fanna'n edrych yn cwl, dio'n le drud? Ma'r mistyr isho ymarfer ei Sbaeneg ond dwi'm isho mynd i rwla o'r enw Costa del Wbath :?


Fydde ti ddim yn cal ymarfer Sbaeneg ar y Costa dels ta beth! Cofio mynd mewn i siop ar y Costa del Sol, pan yn ymweld a'r lle un diwrnod gyda'r teulu, a gofyn am beth oni ishe mewn Sbaeneg, a co'r boi yn troi rownd a gweud "sorry mate don't speak Spanish"!!! :rolio: Lle hardd wedi 'i sbwilio. :drwg: