Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 1:28 pm
gan joni
Ma na 8 (falle 9) o ni'n mynd mas ar y dydd Iau a nol ar y dydd Mawrth. Oes rhywle gen ti mewn golwg i gwrdd lan ar nos wener?

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 1:46 pm
gan Mr Gasyth
Ma'r map yma'n dangos lle fydda i, Joni, EsAi ac eraill yn aros, ma'n edrych reit bell o dy le di Rhys ond yn sicir ma'n rhaid cwrd am beint, a porro os yw'n bosib :winc:

http://albergue.bilbao.net/ing/plano/cpla0000.htm

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 2:16 pm
gan Rhys
Rhys a ddywedodd:Reit ble ni gyd am gwrdd am beint pan fyddwn yno? Dwi a Glewlwyd yn cyrraedd nos Iau ac yn mynd i Gernika am y dydd ar y dydd Gwener


Hang on, dwi ddim yn cofio ble dwi di cytuno gyda GG bydda ni'n mynd dydd Gwener :wps: , efallai mai Donoista oedd o.

Beth bynnag bydda ni'n

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 2:40 pm
gan Mr Gasyth
Be di'r sefyllfa ieithyddol gan bawb ta? Ma gen i ychydig o Sbaeneg rydw i'n bwriadu ei bolisho dros y mis nesa, ond ai gwell trio siarad Saesneg neu jest pwyntio mewn rhai llefydd (megis bar Zulo) na siarad iaith y gormeswr ta be?

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 2:55 pm
gan Rhys
Mond 50,000 allan o boblogaeth 350,000 sy'n siarad Basgeg yn Bilbao, canran tebyg i siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd. Debyg bod na gendlaetholwyr sydd ddim yn siarad Basgeg (ond yn ei ddallt) fel sawl genedlaetholwr Cymreig.

Handi gwbod sut i gyfarch pobl (Kaixo) a dweud hywl (Agur) a plis and ffanciw mewn Basgeg.

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 3:05 pm
gan joni
Bai = Ie
Ez = Na
Kaixo!, Agur! = Helo
Agur!, Adio! = Hwyl fawr
Ikusi arte = Welai di
Eskerrik asko! = Diolch
Egun on = Bore da (yn llythrennol: dydd da)
Egun on, bai = Ymateb safonol i

PostioPostiwyd: Iau 13 Ebr 2006 3:13 pm
gan Glewlwyd Gafaelfawr
Rhys a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Reit ble ni gyd am gwrdd am beint pan fyddwn yno? Dwi a Glewlwyd yn cyrraedd nos Iau ac yn mynd i Gernika am y dydd ar y dydd Gwener


Hang on, dwi ddim yn cofio ble dwi di cytuno gyda GG bydda ni'n mynd dydd Gwener :wps: , efallai mai Donoista oedd o.

Beth bynnag bydda ni'n