gan Nei » Mer 30 Mai 2007 10:40 pm
hefyd mae;n werth ymweld ag ynysoedd Llydaw, nifer ohonyn nhw'n ddigon bach i'w crwydro a darganfod mewn diwrnod(neu ddau) Enez Eusa(kig oen da a hen dyddynod yn cael eu hadnewyddu i ddangos yr hen ffordd Lydewig ynysig o fyw), Mollenez, Groaz yn rhai da i ddechre, neu Enez Vas(Ile de Bats wy'n credu yw e yn Ffrangeg) ger Roscoff - Gardd fotaneg dda yna a adeiladwyd gan ddyn ar ei wely angau, ychydig fisoedd i fynd, felly aeth i fyw i Enez Vas ac adeiladu'r ardd a byw am ugain mlynedd wedi hynny, rhywbeth yn yr aer ar ynysoedd Llydaw mae'n siwr.
Hefyd ewch o brignogan plage ar hyd yr arfordir tua Kerlouan ac mae'n na olygfeydd o'r creigiau, y mor a'r tir ffermio(gwymonwyr) yn gymysg o ie, gwerth gweld y ty sydd wedi ei godi yn y creigiau yn Meneham Kerlouan adeg yr ail ryfel byd i 'sneipio'r Almaenwyr' mae'n debyg a wedyn byta fel brenin yn y bwyty gerllaw, crempog, seidr, gwin, bwyd y mor a chikgoedd da. wy'n credu taw le Meneham yw enw'r bwyty, nesa at lle'r arferai fod Bar direidus o'r ewn Le Fanny Bar, ddim beth chi'n meddwl oedd e, y peth mwya cyffrous i ddigwydd yna oedd dadl dros gem o 'boules' rhang dau hen gojar. Perchnogion newydd y lle yn hoff o Gymry.
ta beth, bach o rant fynna, sori!
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...