gan mred » Llun 28 Meh 2004 11:44 pm
Yr arfordir yn gyffredinol a deud y gwir; yn arbennig rhwng St-Brieg a Lannuon (Arfordir Goelo a Granit Rose), e.e.Ile Grande, Sillon de Talbert - prydferth iawn. Ardaloedd tir âr Llydaw yn undonog.
Huelgoat (Betws y Coed Llydewig) a'r bryniau coediog o gwmpas, a'r daith ar draws gwlad o Le Faou dros y mynydd i Brasparts, Gourin (gŵyl werin yn mis Medi!), a rhannau eraill o dde Llydaw yn fwy coediog, bryniog, a llai amaethyddol.
Byddai Karnag yn well y tu allan i'r tymor ymwelwyr - hynod ond hynod brysur hefyd. Coedwigoedd Paimpont a Guénécan yn ddiddorol, a dyffryn Afon Oust/Camlas Naoned a Brest (Josselin, Rohan ayb.) - llwybr ar hyd y gamlas.
Sgerbwd a dawnswyr gwerinol yn ei ganlyn ar fur yr eglwys yn Kermaria ger Plouc'ha/Plouha, Pempoul/Paimpol yn eitha brawychus! Gwened, Beg ar Raz (Pte du Raz), Morbihan, ayb.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.