gan Josgin » Sad 17 Ion 2009 2:43 pm
Dwi erioed wedi clywed mwy na dau o bobl yn siarad Llydaweg. Cofio gofyn i bobl yn Morlaix yn 1982 os yr oeddent yn siarad Llydaweg, a'r ymateb ychydig bach yn syn ganddynt, gan eu bod yn credu bod ni wrthi'n siarad Llydaweg . Bum unwaith yn yr ysgol uwchradd Lydaweg yn Plesidy, a chlywed yr athwon yn siarad Ffrangeg gyda'i gilydd ! ( arwahan i'r athro mathemateg a'r athrawes Saesneg) . Ni chefais innau'r argraff eu bod yn ymddiddori rhyw lawer yng Nghymru. Mae mwy o ddiddordeb ganddynt yn Iwerddon a'r Alban. Mae diwylliant gweladwy a masnachol y ddwy wlad yma'n denu'r Llydawyr. Mae ein diwylliant ni, sy'n fwy
seiliedig ar ein hiaith, yn codi ychydig o gywilydd arnynt, dwi'n meddwl. Yn ystod y 70 au, 'roedd cyswllt gwirioneddol rhwng y ddwy wlad, gyda Stivell yn ddylanwadol yma a'n grwpiau ni'n mynd yno i deithio. Erbyn rwan, lle gwyliau agos ydi o i fi.
Un peth da am Lydaw - dim rygbi o werth yno !