Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2004 4:17 am
gan Nick Urse
Bae Brignogan Plage yn lle braf i ganwio.
Lesneven yn dre fach ddymunol hefyd.
Eglwys Folgoet yn ddifyr.
Mwynhewch!

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 12:49 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
yn ol. fawr o deithio wedi digwydd mewn gwirionadd, jysd lot o orweddian yn yr haul, yfad gwin a sgwrsio. cyfarfod dyn mewn siop yn kemper oedd yn siarad cymraeg a llydaweg - hollol nyts trafod jarman hefo siopwr bach yng nghanol llydaw, mewn cymraeg! hi hi. isho mynd yn ol eto, a neud o'n iawn; ymchwilio digon i le ma 'na bocedi bach lle ma'r iaith yn cael ei defnyddio. neshi siarad hefo un dyn bach oedd wedi dysgu, ac oedd o'n rhoi'r argraff bod na gymuned go gref ar ddechra rwan, sy'n dysgu ac yn cyfathrebu hefo'i gilydd mewn llydaweg yn unig. anhygoel mor debyg ydi hi i'r gymraeg 'fyd, o'i gweld hi 'di 'i sgwennu - kig moch a ballu!
jysd gobeithio neith y gymraeg ddim dilyn yr un trywydd. :?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 1:00 pm
gan Aran
lle yn union ydy Kemper? ydy o'n bell o Brest? gen i ginio yno nos Sadwrn i godi pres ar gyfer protestwyr sydd yn y carchar yn Ffrainc... a dw i'n aros yn Brest - fydd hi'n ymarferol i fynd รข dod 'run noson?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 2:03 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Fan hyn. Edrych yn eitha' pell o Brest, ond sai'n siwr pa mor bell o ran pellter.

Mae gen i atgofion braf o Kemper - Pasg 1990, crwydro ger y gadeirlan wych a thrwy'r farchnad anhygoel, a chael wy pasg ar ffurf ceiliog, gyda'r siocled hyfrytaf i fi ei gael erioed bryd hynny. :D

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2004 2:56 pm
gan Aran
Diolch! Hmm... mae'n edrych yn eithaf pell... ella dylwn i ddechrau gwneud llygaid mawr cathlyd atyn nhw i weld a fyddai lle i aros yn cael ei gynnig... :winc:

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 9:11 pm
gan Geraint
Newydd cael wytnos wych yn Llydaw. Roscoff yn tref hyfryd - er mae'n siwr fod born neb yn aros yna ar ol dod ffwrdd o'r fferi.

Dim lot i weld ym Mrest, ond Quimper yn tref wych. Meddwi ym mar Gwyddelig (ma na lot o fars gwyddelig yn Llydaw) a malu cachu efo'r locals. Bron neb yn siarad Llydaweg, ond roedd y barman yn iaith gyntaf Llydaweg. Dwi ddim yn meddwl fod nhw'n rili boddyrd iawn am Gymru i fod yn onest. Ffer enyff.

Point bu Ratz/Pen ar byz, tebyg i Lands End. Aberwrac'h - bae hyfyrd iawn iawn.

Y peth gorau oll - y bwyd mor! Cimwch, langoustines, cerrig gleision, crancod.................................... hollol blasus.

Ac hefyd, cwrw Llydaweg. Gwych.

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 10:40 pm
gan Nei
hefyd mae;n werth ymweld ag ynysoedd Llydaw, nifer ohonyn nhw'n ddigon bach i'w crwydro a darganfod mewn diwrnod(neu ddau) Enez Eusa(kig oen da a hen dyddynod yn cael eu hadnewyddu i ddangos yr hen ffordd Lydewig ynysig o fyw), Mollenez, Groaz yn rhai da i ddechre, neu Enez Vas(Ile de Bats wy'n credu yw e yn Ffrangeg) ger Roscoff - Gardd fotaneg dda yna a adeiladwyd gan ddyn ar ei wely angau, ychydig fisoedd i fynd, felly aeth i fyw i Enez Vas ac adeiladu'r ardd a byw am ugain mlynedd wedi hynny, rhywbeth yn yr aer ar ynysoedd Llydaw mae'n siwr.

Hefyd ewch o brignogan plage ar hyd yr arfordir tua Kerlouan ac mae'n na olygfeydd o'r creigiau, y mor a'r tir ffermio(gwymonwyr) yn gymysg o ie, gwerth gweld y ty sydd wedi ei godi yn y creigiau yn Meneham Kerlouan adeg yr ail ryfel byd i 'sneipio'r Almaenwyr' mae'n debyg a wedyn byta fel brenin yn y bwyty gerllaw, crempog, seidr, gwin, bwyd y mor a chikgoedd da. wy'n credu taw le Meneham yw enw'r bwyty, nesa at lle'r arferai fod Bar direidus o'r ewn Le Fanny Bar, ddim beth chi'n meddwl oedd e, y peth mwya cyffrous i ddigwydd yna oedd dadl dros gem o 'boules' rhang dau hen gojar. Perchnogion newydd y lle yn hoff o Gymry.

ta beth, bach o rant fynna, sori!

Re: Llydaw

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2009 2:43 pm
gan Josgin
Dwi erioed wedi clywed mwy na dau o bobl yn siarad Llydaweg. Cofio gofyn i bobl yn Morlaix yn 1982 os yr oeddent yn siarad Llydaweg, a'r ymateb ychydig bach yn syn ganddynt, gan eu bod yn credu bod ni wrthi'n siarad Llydaweg . Bum unwaith yn yr ysgol uwchradd Lydaweg yn Plesidy, a chlywed yr athwon yn siarad Ffrangeg gyda'i gilydd ! ( arwahan i'r athro mathemateg a'r athrawes Saesneg) . Ni chefais innau'r argraff eu bod yn ymddiddori rhyw lawer yng Nghymru. Mae mwy o ddiddordeb ganddynt yn Iwerddon a'r Alban. Mae diwylliant gweladwy a masnachol y ddwy wlad yma'n denu'r Llydawyr. Mae ein diwylliant ni, sy'n fwy
seiliedig ar ein hiaith, yn codi ychydig o gywilydd arnynt, dwi'n meddwl. Yn ystod y 70 au, 'roedd cyswllt gwirioneddol rhwng y ddwy wlad, gyda Stivell yn ddylanwadol yma a'n grwpiau ni'n mynd yno i deithio. Erbyn rwan, lle gwyliau agos ydi o i fi.
Un peth da am Lydaw - dim rygbi o werth yno !