Taith y Copau: Awst 19 - Awst 28 2004

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Taith y Copau: Awst 19 - Awst 28 2004

Postiogan Rhys » Llun 19 Gor 2004 12:06 pm

Wedi ei bostio yma gan y gall fod o ddiddordeb i bobl sydd ddim yn aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Deg copa mewn deng niwrnod - er mwyn codi arian i goffrau Cymdeithas yr Iaith!

Yr Aran – Iau, Awst 19

Cadair Idris – Gwener, Awst 20

Pumlumon – Sadwrn, Awst 21

Y Frenni Fawr – Sul, Awst 22

Penyfan Fawr – Llun, Awst 23

Cadair Arthur – Mawrth, Awst 24

Moel Famau – Mercher, Awst 25

Carnedd Llywelyn – Iau, Awst 26

Yr Eifl – Gwener, Awst 27

Yr Wyddfa – Sadwrn, Awst 28

Yn ogystal, bydd gigs yn cael eu trefnu yn ystod y daith!


Mwy o fanylion yma

Cyfle da i gael gwared a excess yr Eisteddfod, cwrdd a phobl newydd, mwynhau prydferthwch Cymru a chodi arian at y Gymdeithas run pryd.

Dwi'n bwriadu dringo'r Frenni Fawr ar y dydd Sul cyntaf a gwersylla yn sir benfro noson gynt os di'r tywydd yn dda. Unrhywun arall am wneud un (neu phob un)?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Llun 19 Gor 2004 12:35 pm

Dwi am wneud pob un. Gwyliau rhad, braf a gwahanol, cyfle i weld Cymru a gneud cyfraniad at yr Iaith run pryd. Jest gobeithio bydd y tywydd yn braf de.

Welai di wrth droed y Fenni Rhys.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan joni » Llun 19 Gor 2004 12:40 pm

Hmm...Falle ddoi i lan Pumlumon gyda chi. Dwi'm ishe mynd rhy bell o 'berystwyth nawr ydw i...
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 19 Gor 2004 12:41 pm

Rwy'n fodlon gwneud un mynydd mewn deng niwrnod.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 19 Gor 2004 2:35 pm

Aled, wy'n tynnu'n het i ffwrdd
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Mr Gasyth » Llun 19 Gor 2004 3:45 pm

Ti am ddod ar un ohonyn nhw Iesu? Gallet roi Pregeth ar y Mynydd? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Wilfred » Maw 20 Gor 2004 4:48 pm

Aled a ddywedodd:Dwi am wneud pob un. Gwyliau rhad, braf a gwahanol.


Fydd rhaid i ti stopio smocio os ti am drio gneud y 10 dwrnod sdi Aled. Ddim fatha chdi yn trio cael gwylia rhad chwaith a titha mor hael efo dy bres. :lol: :lol:
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan joni » Mer 11 Awst 2004 8:27 am

Gan fy mod yn meddwl mynd ar y daith lan Pumlumon, dwi wedi bod yn neud rhywfaint o ymchwil a wedi dod ar draws hwn oddi ar y wefan yma...(esgusodwch fi am ddefnyddio'r Seasneg)

Wales Walking a ddywedodd:WHATEVER YOU DO, DON'T ASCEND FROM THE SOUTH OR EAST!

The route to Pen Pumlumon Fawr from Eisteddfa Gurig (at the highest point of the A44 road) is awful. Yet for some reason it appears in countless guidebooks. Don't be tempted: the ascent is a tedious slog; you'll miss the good bits of the mountain; and much of the route is on ugly farm tracks. What's more, you'll pay £3 for the privilege of parking at Eisteddfa Gurig. You have been warned!

a dyma be ma fe'n dweud ar wefan CyI...
CyI a ddywedodd:Pumlumon – Sadwrn, Awst 21
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore ym maes parcio Eisteddfa Gurrig, ar yr A44 rhwng Llangurig ag Aberystwyth.

You have been warned
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 11 Awst 2004 8:43 am

:wps:

wyt ti wedi bod i fyny o'r blaen Joni?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan joni » Mer 11 Awst 2004 8:46 am

Naddo. Falle fydd e'n ok a bod y cyngor yna yn dod o ddringwyr "hardcore", ond falle ddim. Unrhywun arall wedi bod fyny?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai